Ffromlys chwarennog

Himalayan Balsam

©Amy Lewis

Ffromlys chwarennog

Enw gwyddonol: Impatiens glandulifera
Fel mae ei enw yn Saesneg, ‘Himalayan balsam’, yn awgrymu, mae ffromlys chwarennog yn dod o'r Himalayas ac fe'i cyflwynwyd yma yn 1839. Mae bellach yn chwyn ymledol ar lannau afonydd a ffosydd, lle mae'n atal rhywogaethau brodorol rhag tyfu.

Species information

Ystadegau

Hyd: up to 2m

Statws cadwraethol

Invasive, non-native species.

Pryd i'w gweld

Gorffennaf i Hydref

Ynghylch

Cyflwynwyd ffromlys chwarennog fel planhigyn gardd yn 1839, ond dihangodd yn fuan a daeth yn naturiol eang ar hyd glannau afonydd a ffosydd, yn enwedig yn agos at drefi. Mae'n tyfu ac yn ymledu'n gyflym, gan reoli cynefinoedd gwlyb ar draul blodau brodorol eraill. Mae ei godennau hadau ffrwydrol yn helpu i'w ledaenu drwy anfon yr hadau i'r afon, gan achosi gwasgaru pellach i lawr yr afon. Our largest annual plant, it flowers from July to October.

Sut i'w hadnabod

Mae gan y ffromlys chwarennog flodau mawr, pinc sydd wedi'u siapio fel boned; dilynir y rhain gan godennau hadau gwyrdd, crog.

Dosbarthiad

I’w ganfod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn bennaf, gyda rhai poblogaethau gwasgaredig yn yr Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae’r ffromlys chwarennog yn cael ei adnabod hefyd fel 'ffromlys Indiaidd', ond mae'n dod yn wreiddiol o'r Himalayas. Mae hyn wedi rhoi’r llysenw doniol o 'Cusan i mi ar y mynydd' iddo mewn rhai rhannau o'r DU.

Sut y gall bobl helpu

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda rheolwyr plâu a sefydliadau sy’n delio â rhywogaethau estron i ddod o hyd i’r atebion mwyaf cyfeillgar i fywyd gwyllt i rai o’n problemau bob dydd