Cynyddwch eich arian!!

Gors Maen Llwyd Nature Reserve by Gavin Davis

Gallwch nawr noddi acer o Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd am £5 neu gallwch Fabwysiadu Pathew am £15.

 

Mae pecyn Gors Maen Llwyd yn dod gyda cherdyn rhodd trawiadol gyda ffotograff o Rugiar Ddu yn dawnsio ac arddangos wrth i’r dydd wawrio, llun a dderbyniwyd fel rhodd gan y ffotograffydd bywyd gwyllt proffesiynol Danny Green, tudalen ffeithiau yng nglyn â’r warchodfa natur a thystysgrif noddi.

 

Mae pecyn anrheg y Pathew yn cynnwys cyfeirydd cnau cyll i’ch helpu chi chwilota am unrhyw arwyddion o’r creadur swil yma yn eich ardal chi, hefyd tudalen ffeithiau a cherdyn anrheg y Pathew gyda ffotograff a gafwyd yn rhodd gan Graham Eaton, eilydd yng Nghystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn 2007.

 

Am fanylion pellach cysylltwch â Jenny Berry ar nwwt@wildlifetrustswales.org neu drwy ffonio 01248 351541.

 

Neu prynwch ar-lein nawr!
Black Grouse by Danny Green

Noddwch acer o Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd am £5


 

 

 

 

Dormouse by Graham EatonMabwysiadwch Bathew am £15

 


 

Sylwch:  Nid does angen cyfrif gyda PayPal, maen’t yn derbyn cardiau Credyd a Debyd hefyd.

 


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772