Beth ydi'r Daith Gerdded Wyllt Fawr?
Y Daith Gerdded Wyllt Fawr ydi her codi arian flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur!
Cerddwch 30km rhwng 21 Hydref a 3 Tachwedd a chodi arian i amddiffyn y bywyd gwyllt rydych chi'n ei garu.
P'un a ydych am gymryd un heic fawr neu ei gymryd ar eich cyflymder cerdded eich hun dros y pythefnos, yr unig gystadleuaeth yw yn eich erbyn eich hun. Ac os yw’n well gennych goncro cyfri grisiau o gysur eich ystafell fyw, peidiwch â phoeni oherwydd byddwn yn dod â’r bywyd gwyllt atoch chi!
Beth bynnag a wnewch, byddwch hefyd yn profi’r manteision i iechyd a lles sy’n dod o gysylltu â natur.
Sut i wynebu her y Daith Gerdded Wyllt Fawr
"Mae'n beth hyfryd gwneud ar eich pen eich hun, neu gyda theulu a ffrindiau!"codwr arian 2023
Cofrestru
#NominateForNature!
Does dim byd yn curo taith gerdded hydrefol grimp gyda ffrindiau a theulu. Felly beth am eu henwebu i ymuno â chi wrth i chi gwblhau Taith Gerdded Wyllt Fawr!
Gwahoddwch dri ffrind neu aelod o’r teulu gyda’r hashnod #NominateForNature – rhowch wybod iddynt pam eich bod yn cymryd rhan yn eich Taith Gerdded Wyllt Fawr, faint mae bywyd gwyllt yn ei olygu i chi a sut y gallant gymryd rhan hefyd!
Rhannwch eich taith ar gyfryngau cymdeithasol a dathlwch bob cam a gymerwch – mae’r cyfan yn helpu i warchod y bywyd gwyllt rydyn ni’n ei garu. Gallwch hefyd ymuno â'n grŵp Facebook am anogaeth ddyddiol gan gymuned groesawgar o gyd-garwyr natur!.
Roedd yn her bleserus iawn ac yn gymhelliant da i fynd allan i'r awyr iach a chefn gwlad a chael rhywfaint o ymarfer corff, yn ogystal â chodi arian at achos gwych.Codwr arian 2023
Sut mae cymryd rhan yn helpu bywyd gwyllt?
Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus ac mae bygythiad trychineb hinsawdd yn bryder parhaus. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am gysylltu o leiaf 30% o’n tir a’n môr a’u diogelu ar gyfer adferiad byd natur erbyn 2030. Bydd yr arian a godir drwy’r Daith Gerdded Wyllt Fawr yn mynd yn uniongyrchol tuag at ein helpu ni i gyrraedd y nod hwn. O ymgyrchu dros ardaloedd gwarchodedig ar y môr i ganiatáu i’n bywyd gwyllt morol gwerthfawr adfer, i weithio gyda thirfeddianwyr a grwpiau cymunedol i greu mannau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, mae eich rhoddion yn ein helpu ni i ddod â bywyd gwyllt yn ôl ar draws y DU ac ar Ynysoedd Manaw ac Alderney.
Cynnwys cyfryngau cymdeithasol!
Dyma rywfaint o raffeg cyfryngau cymdeithasol defnyddiol i'w defnyddio pan fyddwch chi'n dechrau codi arian! Mae'n cynnwys lluniau clawr ar gyfer Facebook, lluniau ar gyfer negeseuon ar Facebook, X (Twitter) ac Instagram, a straeon Instagram.
Lawrlwythwch nhw isod i helpu i wneud i’ch negeseuon codi arian gyrraedd mwy fyth o bobl!
Tirwedd y Daith Gerdded Wyllt Fawr - Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories
Cymeriadau’r Daith Gerdded Wyllt Fawr - Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
-
Facebook cover image
-
Post images:
-
Instagram stories:
Cefnogwch ein cenhadaeth
Mae’r ymgyrch codi arian #TaithGerddedWylltFawr #BigWildWalk yn cefnogi cenhadaeth yr Ymddiriedolaethau Natur i adfer a diogelu o leiaf 30% o dir a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030 – gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.