Mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru’n arbennig mewn sawl ffordd...
Gydag ychydig gannoedd o gilometrau o arfordir yn ymestyn o Aber Afon Dyfrdwy i Aberdyfi, mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru yn arbennig mewn sawl ffordd ac yn gartref i lawer o fywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol.
Ond mae moroedd Cymru mewn trafferthion! Mae llawer o’n rhywogaethau morol yn prinhau ac mae cynnydd parhaus yn y sbwriel sy’n mynd i mewn i’n moroedd, mae bygythiad o ddatblygu seilwaith anghynaladwy ac ar ben hyn oll rydym bellach yn gweld effeithiau cynyddol newid hinsawdd fyd-eang.
Fel hyrwyddwyr naturiol ar gyfer bywyd gwyllt arfordirol a morol rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o Foroedd Byw. Moroedd Byw yw ein gweledigaeth ar gyfer cadwraeth forol yng Ngogledd Cymru lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, o'r dyfnderoedd i'r basnau arfordirol.
Arddangosfa Moroedd Byw yn Storiel
Darganfyddwch ryfeddodau ein moroedd, traethau ac arfordiroedd lleol yn ein harddangosfa forol Moroedd Byw yn Amgueddfa Storiel Bangor! Bydd ar agor am dros 3 mis felly ymwelwch gymaint o weithiau ag y dymunwch! Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau dan arweiniad 'Cwrdd â'r Tîm' felly galwch draw am sgwrs gyda ni!
60 Miri Morol
Helpwch ni i ddathlu ein penblwydd 60 mewn steil trwy lawrlwytho ein pecyn morol '60 Miri Morol', sy'n llawn dop o weithgareddau cyffrous sy'n addas i'r teulu cyfan! Mae gennym ddigon i'ch cadw'n brysur o'r lan neu o gartref, gan gynnwys taflenni defnyddiol ar gyfer canfod rhywogaethau a ffyrdd o gymryd rhan yn ein gwaith!
Beth ydym ni yn ei wneud....
Cymerwch ran!
Digwyddiadau
Ymunwch â ni i archwilio bywyd gwyllt bendigedig Gogledd Cymru!