Y Fôr-wennol Bigddu (Thallasseus sandvicensis) yw’r fwyaf o’r pum rhywogaeth o fôr-wenoliaid sy’n magu yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac mae ei henw yn Saesneg (Sandwich Tern) yn deillio o Sandwich yng Nghaint, oedd yn arfer bod â phoblogaeth fawr. Yn ysglyfaethwyr sy’n plymio’n bwerus i ddŵr, mae ganddynt adenydd hir, gyda chefn llwyd ariannaidd, coesau duon a phig du gyda blaen melyn. Mae eu crib blewog i’w weld pan maent ar y tir, yn enwedig pan maent yn rhoi arddangosfa i’w cymar mewn ‘dawns’ garu afradlon ar ddechrau’r tymor magu.
Cemlyn yw’r unig safle yng Nghymru ar gyfer y rhywogaeth hon a’r safle mwyaf yng ngorllewin Prydain, yn gartref i hyd at 20% o boblogaeth gyfan y DU. Efallai bod môr-wenoliaid pigddu Cemlyn yn teithio mor bell â 30km o amgylch arfordir Ynys Môn i chwilio am bysgod llawn protein ar gyfer eu cywion, ac mae’r adar sydd wedi cael eu modrwyo’n gywion yng Nghemlyn wedi’u gweld eto yn ddiweddar ar diroedd gaeafu yn Gambia, Mauritania, De Affrica a Namibia. Byddant yn dychwelyd i Gymru yn ddwy neu dair oed i geisio magu eu hunain, gan gyrraedd ddiwedd mis Mawrth a mis Ebrill fel rheol.
Y fôr-wennol wridog (Sterna dougallii) yw’r aderyn môr magu prinnaf yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Yn hanesyddol, oherwydd eu plu hardd, cafodd yr adar prin yma eu hela nes diflannu bron ym Mhrydain yn ystod y cyfnod lle’r oedd gwneud hetiau yn ei fri. Heddiw, dim ond tair poblogaeth fechan sydd yma, gydag ychydig dros 1850 o barau (2016).
Mae gan oedolion y môr-wenoliaid gwridog gap du a phlu eithriadol welw ar eu corff, gyda ‘mantell’ lwyd golau ar y cefn a gwyn neu hufen oddi tanodd, gydag arlliw rhosliw ysgafn ar y frest (nid yw’n hawdd ei weld bob amser). Un peth sy’n wahanol am y rhywogaeth yma yw bod ei phig yn ddu i gyd ym mis Mai, ac wedyn mae’n troi’n goch yn y gwaelod fel rheol ac mae’n hanner coch erbyn mis Awst. Mae hyn, ynghyd â’u rhubanau gwyn hir iawn a hyblyg ar y gynffon a’u llais nodedig, yn ein helpu i ddweud y gwahaniaeth rhwng y môr-wenoliaid yma a’r rhai eraill.
Nid yw môr-wenoliaid gwridog wedi nythu yng Nghemlyn ers canol y 1990au, ond weithiau maent yn galw heibio’r boblogaeth yn ystod y tymor. Mae’r safle’n cael ei gynnal a’i gadw i fod mor atyniadol â phosib i fôr-wenoliaid gwridog.
Mae ardal wylio benodol yn cael ei marcio ar esgair o ro mân Cemlyn yn ystod tymor magu’r môr-wenoliaid, gyferbyn ag ynysoedd y môr-lyn, gan ddarparu un o’r safleoedd gwylio gorau yn y DU i edrych yn fanwl ar y boblogaeth o fôr-wenoliaid. Mae’r olygfa a’r sain wrth i chi edrych ar feithrinfa brysur i gywion yn drawiadol, ac mae’r wefr o weld rhiant môr-wennol yn gwibio heibio gyda physgod – ar uchder eich pen weithiau – yn brofiad unigryw.
Mae dau warden haf yn cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bob blwyddyn i warchod y boblogaeth o fôr-wenoliaid a bywyd gwyllt arall, ac i gysylltu â’r ymwelwyr niferus â’r esgair. Maent yn cael eu cynorthwyo gan wirfoddolwyr brwd a heb help y rhain, byddai gwaith yr Ymddiriedolaeth yn amhosib. Fel rheol mae warden yn yr ardal wylio yn ystod oriau’r dydd, yn monitro’r môr-wenoliaid ac yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd. Hefyd mae’r wardeiniaid yn cynnal ymchwil fel astudiaethau bwydo o’r esgair, gan gofnodi maint a math y pysgod mae oedolion y môr-wenoliaid yn eu cludo i’w cywion.
Cafodd Esgair Gemlyn, y gro mân siâp hanner lleuad sy’n gwahanu Bae Cemlyn a’r môr-lyn, ei chreu’n ddramatig gan storm bwerus yn yr 19eg ganrif, ac mae’n rhimyn deinamig a rhyfeddol o gynefin. Yn symud i mewn tua’r tir ryw fymryn bob blwyddyn, ac yn newid proffil yn unol â chyfeiriad a chryfder gwyntoedd y gaeaf, mae’r esgair yn gartref i blanhigion gwydn fel y pabi corniog melyn a’r gludlys arfor. Yr ysgedd arfor a’i blodau melys yw’r rhywogaeth wytnaf o’r holl rywogaethau, yn gwthio ei gwreiddiau’n ddwfn drwy’r gro mân, bob cam i fyny at y draethlin.
Weithiau mae adar sy’n nythu ar y tir fel y cwtiad aur a phioden y môr yn ceisio nythu ar hyd yr esgair, gan ddodwy eu hwyau cuddliw hardd mewn pantiau yn y gro mân. Oherwydd hyn, ac er mwyn atal tarfu ar y môr-wenoliaid, mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn cau top yr esgair gyda rhaffau bob gwanwyn a haf, gan ofyn i ymwelwyr aros ar ochr y môr, a chadw eu cŵn ar dennyn.
Yn llai na’r môr-wenoliaid pigddu, gyda phlu llwyd tywyllach, dyma ddwy rywogaeth debyg iawn i’w gilydd o ran ymddangosiad a gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y maes. Bydd ein canllaw adnabod yn eich helpu chi i weld eu nodweddion allweddol. Maent yn dychwelyd o Affrica yn hwyrach na’r môr-wenoliaid pigddu – o ganol mis Ebrill ymlaen fel rheol, ac maent yn tueddu i nythu o amgylch cyrion yr ynysoedd – ar ro mân noeth yn aml neu ar laswellt byr. Siwrnai môr-wenoliaid y gogledd yw un o’r siwrneiau mudo hiraf a wneir gan unrhyw aderyn, ac efallai eu bod yn gweld mwy o olau dydd yn eu bywydau nag unrhyw rywogaeth arall.
Mae’r ddwy fôr-wennol yma’n rhieni hynod amddiffynnol a byddant yn ymosod ar unrhyw beth (gan gynnwys pobl weithiau!) os byddant yn eu gweld fel bygythiad i’w cywion. Mewn poblogaeth gymysg, gall yr ymddygiad hwn fod o fudd i rywogaethau eraill fel môr-wenoliaid gwridog, sy’n llai ffyrnig tuag at ysglyfaethwyr o’r awyr, a chredir fod presenoldeb môr-wenoliaid cyffredin yn benodol yn ffactor pwysig o ran denu môr-wenoliaid gwridog i safle.
[Nod Prosiect Adfer LIFE y Fôr-Wennol Wridog yw adfer y safleoedd hanesyddol lle’r arferai’r môr-wenoliaid gwridog nythu. Drwy wella amodau’r safle i boblogaethau o fôr-wenoliaid cyffredin, efallai y bydd y môr-wenoliaid gwridog yn fwy tebygol o ailsefydlu yn y safleoedd hyn yn y dyfodol.]
I ddenu mwy o fôr-wenoliaid cyffredin (a fydd ymhen amser yn denu môr-wenoliaid gwridog efallai), mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ceisio creu cynefin nythu ychwanegol posib yng Nghemlyn. Un ffordd o wneud hyn yw drwy osod rafftiau o amgylch ynysoedd y môr-lyn. Mae gan y llwyfannau arnofiol hyn sydd wedi’u hangori a’u gorchuddio gan ro mân ochrau Perspex serth sy’n eithrio ysglyfaethwyr sy’n dod o’r dŵr. Mae’r rafftiau wedi bod yn opsiynau nythu llwyddiannus i fôr-wenoliaid cyffredin, ac maent wedi cymryd atynt yn ddidrafferth ar safleoedd eraill. Y gobaith yw y bydd y rafftiau’n lleihau’r gystadleuaeth am ofod gyda’r môr-wenoliaid pigddu, sy’n gallu bod yn broblem ar yr ynysoedd eu hunain.
I sicrhau cymaint o gynefin nythu â phosib ar yr ynysoedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gwneud gwaith rheoli yno’n rheolaidd, gyda help gwirfoddolwyr yn aml. Mae hyn wedi cynnwys clirio darnau mawr o fetys môr, a all gronni mewn rhai mannau, yn enwedig ar ôl gaeafau mwyn, a llenwi ardaloedd mwdlyd ar dir isel gyda gro mân er mwyn creu gofod agored wedi’i ddraenio’n dda lle gall y môr-wenoliaid nythu.
Un rhan bwysig o sicrhau cynefin addas ar gyfer môr-wenoliaid sy’n nythu yng Nghemlyn yw rheoli lefel y dŵr yn y môr-lyn yn ystod y gwanwyn a’r haf. Os bydd y lefel yn rhy isel, gall fod yn wahoddiad i ysglyfaethwyr tir, ond os yw’n rhy uchel, gall yr ynysoedd fod yn orlawn. Felly mae boncyffion atal yn cael eu gosod yng nghored Bryn Aber ar ddechrau pob tymor magu, gan leihau’r llif llanwol drwodd a chadw lefel y dŵr yn y môr-lyn yn gyson. Maent yn cael eu tynnu ar ôl y tymor fel bod yr ynysoedd yn gallu cael eu gorlifo ar lanw uchel, ac er mwyn i’r dŵr hallt lenwi’r môr-lyn eto. Mae hyn yn bwysig i fywyd gwyllt arbenigol y môr-lyn sydd wedi addasu i’r amodau hallt.
Yn wahanol i’r pedair rhywogaeth arall o fôr-wenoliaid (pigddu, cyffredin, bach a Gogledd) sy’n magu yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, mae môr-wenoliaid gwridog yn ffafrio nythu mewn lleoliadau cysgodol fel cilfachau rhwng creigiau, yng nghanol llystyfiant talach, neu tu ôl i weddillion ar draeth o ro mân. Mae pob môr-wennol yn creu pant bychan bas yn y ddaear ac mae eu hwyau’n guddliw, sy’n helpu i’w cuddio rhag ysglyfaethwyr.
Bob tymor ers canol y 1990au (pan nythodd y môr-wenoliaid gwridog y tro diwethaf yng Nghemlyn), mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gosod bocsys nythu arbennig i’r môr-wenoliaid gwridog ar ynysoedd y môr-lyn. Y nod yw gwneud Cemlyn mor atyniadol â phosib i fôr-wenoliaid gwridog, os byddant yn ailsefydlu ar y safle. Mae’r bocsys yma’n cael eu defnyddio’n helaeth ar y prif safle Ewropeaidd i’r rhywogaeth – Rockabill yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ond yn absenoldeb y môr-wenoliaid gwridog, mae’r bocsys hefyd yn darparu cysgod i gywion môr-wenoliaid eraill – rhag ysglyfaethwyr o’r awyr a thywydd anffafriol.
Mae’r holl fôr-wenoliaid angen cymaint o help â phosib, ac mae’r gwaith cadwraeth ar gyfer y rhywogaethau hyn yn aml yn cynnwys gwarchod ardaloedd nythu rhag ysglyfaethwyr, a hefyd rhag tarfu gan bobl. Mae ysglyfaethwyr yn rhan o unrhyw ecosystem naturiol, ond weithiau mae problem benodol yn bygwth hyfywedd poblogaeth gyfan. Ar ynysoedd y môr-lyn, mae môr-wenoliaid Cemlyn wedi elwa dros y blynyddoedd o’r ffaith eu bod yn gymharol anhygyrch i ysglyfaethwyr ar y tir ond, yn 2017, methodd y tymor magu yn llwyr, a chredir mai ymweliadau nosol gan ddyfrgwn oedd yn gyfrifol am hyn.
Fel ymateb i hyn, gosododd yr Ymddiriedolaeth Natur ffens drydan pŵer solar o amgylch perimetr y ddwy ynys, i atal mynediad drwy’r môr-lyn. Y nod oedd ceisio atal y boblogaeth gyfan rhag gadael y safle, sy’n gallu digwydd weithiau ar ôl problemau cyson gyda mamaliaid ysglyfaethus. Hyd yma, mae’n ymddangos bod y ffens drydan wedi bod yn llwyddiannus, gyda niferoedd y môr-wenoliaid wedi cael dechrau cynyddu eto, heb achosi unrhyw niwed i’r dyfrgwn chwaith.
Bu dyfrgwn yn absennol o Ynys Môn am sawl degawd ond, ers 2010, maent wedi dychwelyd ac maent i’w gweld yn y rhan fwyaf o ddalgylchoedd ar yr ynys bellach. Yng Nghemlyn, maent yn swil iawn; mae’r môr-lyn a’r glannau’n rhan o’u hamrediad mawr a all ymestyn i mewn am y tir ar hyd yr afonydd a’r nentydd. Mae chwilio gofalus wedi datgelu eu baw ac ar sail y canfyddiad yma rydym yn gwybod, tra maent yng Nghemlyn, eu bod yn bwydo’n rheolaidd ar bysgod cregyn, pysgod sy’n cynnwys llysywod ac adar yn achlysurol.
Mae dyfrgwn yn un o sawl rhywogaeth o famaliaid sydd i’w gweld yn rhwydd yn ardal Cemlyn. Mae ysgyfarnogod yn olygfa gyffredin, hyd yn oed ar yr esgair o ro mân. Hefyd mae carlymod i’w gweld yn rhedeg i mewn ac allan o’r cloddiau o ddaear o amgylch y warchodfa natur. Ac oddi ar y lan mae posib clywed sŵn morloi ar greigiau gerllaw; hefyd mae posib gweld dolffiniaid a llamhidyddion o’r pentir gerllaw.