Ein cenhadaeth yw gwella llefydd ar gyfer bywyd gwyllt a chysylltu pobl â bywyd gwyllt
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gwneud llefydd yn well i fywyd gwyllt drwy reoli gwarchodfeydd natur, creu tirweddau byw, gwarchod bywyd gwyllt y môr a gwella cysylltiadau tirwedd ar gyfer bywyd gwyllt (drwy ymladd dros ymylon ffyrdd bioamrywiol a’n rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt er enghraifft). Rydym yn gwneud hyn ledled y rhanbarth gyda help gwirfoddolwyr a chymunedau lleol a chefnogaeth ein haelodau.
Prosiectau cadwraeth
Dod yn aelod i barhau â’n gwaith
Mae natur mewn trafferthion. Beth am ddod yn aelod i gefnogi ein gwaith ni’n gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi mor hoff ohono yng Ngogledd Cymru.