Gorffennaf Di-blastig Malan

Gorffennaf Di-blastig Malan

Gorffennaf Di-blastig Malan!

‘Dan ni’n lwcus iawn yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod gennym nifer o bobl ifanc sydd yn ymddiddori mewn bywyd gwyllt ac yn barod i weithredu drosto. Yn yr ail o’n straeon am y bobl wych yma dyma blog Malan (7oed) a’i theulu a roddodd gorau i ddefnyddio plastig am fis cyfan Fis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf. Dyma sut hwyl gafodd Malan...

Malan ydw i a mi nes i fyw heb blastig ar hyd mis Gorffennaf diwethaf! Dyma fy nyddiadur i...

Gorfennaf 1af

Mae yn Gorffennaf y 1af heddiw ac felly dim plastic am mis gyfan. Wedi cael hufen ia yn Betws y Coed heddiw ac dweud wrth y dyn dwi ddim eisiau llwy plastig yn fy twb hufen ia, a wedyn mynd i caffi mwnci (Alpine Cafe) i fenthyg llwy metal ac er mwyn i Dad gael prynu coffi ddim mewn paced.

Plastig ym mhobman ac ymhopeth!

Dwi wedi creu collage i ddangos pam bod fi eisiau byw heb blastig!

Dwi wedi creu tabl syml i ddangos sut dwi wedi mentro i ddatrys rhai o'r problemau yr ydym yn gwynebu wrth geisio fyw heb blastig ar hyd mis Gorffennaf.

Y trip ysgol!

Heddiw dwi wedi bod yng nghanolfan bywyd y môr Rhyl ar trip ysgol. Dwi wedi gweld morgi enfawr.

Mae bywyd y môr yn bwysig ac dwi'n falch iawn fod pawb yn trio cael gwared ar plastig or môr.

Mae Dad wedi bod yn pobi bara heno ac hefyd yn coginio crempog oherwydd dwi ddim eisiau prynu hufen ia or siop oherwydd mae mewn plastig. Rydym hefyd yn dysgu sut i neud popcorn yn lle bwyta creision.

Dwi wedi bod yn siopa dillad gyda Mam, ac wedi gofyn i’r pobol sydd yn gweithio yn y siop dydw i ddim eisiau mynd ar hangers plastig adref.

Dwi wedi bod yn brwsio fy nannedd gyda past dannedd charcoal mewn jar gwydr ond dwi ddim yn hoffi fo oherwydd mae o’n ddu a dim blas neis iawn arno fo. Mae gennyf brws dannedd bamboo rwan hefyd. Felly wythnos yma dwi am drio gneud past dannedd fy hun.

Gwnes i gacennau gyda Dad fel ein bod ni ddim yn gorfod prynu fferins ar gyfer trip ysgol.

Bawd i fyny gan Malan!

Bawd i fyny gan Malan!

Bron 'di gorffen a Malan yn dal i wenu! Da iawn chdi Malan!

Gorffennaf heb blastig mewn deg pwynt!

Wythnos diwethaf fe wnaethom bast dannedd ein hunain gan ddefnyddio olew cnau coco, baking powder a olew Tea tree. Roedd yn hawdd iawn ac mae Dad yn ei hoffi ond mae mam yn poeni fod yr olew cnau coco yn mynd i blocio'r sinc, felly tro nesaf rydym am ddefnyddio dŵr yn lle olew cnau coco. Wythnos yma aeth Mam a mi a un o fy ffrindiau i brynu fferins ond yr unig beth oedd yn y Co-op oedd siocled mewn papur, ond roedd yn neis iawn.

10 peth dwi wedi dysgu am fyw heb blastig

1. Mae byw heb blastic wedi bod yn anodd iawn.

2. Dwi'n teimlo'n fwy iach gan ein bod wedi bod yn coginio a pobi mwy o bethau ein hunain a rydw i wedi dysgu sut i neud cacenau gwahanol.

3. Rydw i’n bwyta mwy o choc ices rwan gan ei bod mewn paced papur a cardfwrdd.

4. Mi fusai’n syniad da prynu buwch fel ein bod yn medru cael llaeth, menyn, caws, hufen a yogwrt sydd i gyd yn dod mewn plastig o’r siop. Dwi’n gwybod sut i odro buwch yn barod.

5. Dwi wedi methu bwyta fferins.

6. Mae’r cigydd yn y siop rwan yn galw Dad yn Tupperware man!

7. Mae fy athrawon yn ysgol wedi dweud da iawn Malan!

8. Mae rhai o fy ffrindiau yn meddwl fod o’n gret ond does dim ots gan eraill.

9. Rydym wedi hanneru nifer y bagiau ailgylchu – wythnos diwethaf doedd dim bag ail gylchu o gwbwl!

10. Mae byw heb blastic wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu mwy!

Rydw i heno yn cael bath gan ddefnyddio bar shampoo fel nad ydw i’n creu gwastraff gyda potel plastig arall.  

Diolch am dy flog ffantastig Malan…

…ac am adael i bawb sut aeth popeth. Mae na llwyth o ysbrydoliaeth yma! Dal ati!! :-)

Beth am gymryd rhan yng Ngorffennaf di-blastig y flwyddyn yma? Mae digon o amser i baratoi ac llwyth o ysbrydiolaeth a syniadau yma  gan Malan? Ffansi rhoi tro? Dilynwch ni ar @LivingSeasWales

Oes gennych chi stori dda i'w ddweud. Os hoffech rannu hefo ni drwy ein blog cysylltwch â info@northwaleswildlifetrust.org.uk