Mae ein pencadlys ym Mangor yn lle perffaith i gynnal cyfarfod, prynu ambell anrheg bywyd gwyllt neu gael ysbrydoliaeth ar gyfer creu gardd i fywyd gwyllt. Mae’r holl incwm yn helpu i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth Natur.
Mae posib trefnu ein hystafell gyfarfod fel theatr, ystafell bwrdd neu mewn unrhyw fformat arall ac mae lle i hyd at 27 o bobl eistedd. I archebu’r ystafell, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd i graeme.cotterill@northwaleswildlifetrust.org.uk, neu ffoniwch ni i holi.
![Llys Garth meeting room](/sites/default/files/styles/scaled_default/public/2019-03/IMAG0974.jpg?itok=oOGuAS6o)