Mae Glöynnod Byw angen ein help ni
Mae glöynnod byw yn llawer llai cyffredin nawr nag oedden nhw saith deg mlynedd yn ôl a does dim angen chwilio’n galed am yr ateb pam. Ers y 1940'au, rydyn ni wedi colli 97% o’n dolydd llawn blodau gwyllt a hefyd llawer o rostir, coetiroedd hynafol a chorsydd mawn.
Mae hyd yn oed glöynnod byw cyffredin ar eu colled wrth i wrychoedd ac ymylon caeau llawn blodau gwyllt a glaswelltau gael eu torri gan arad. Felly beth allwn ni ei wneud i helpu?
Beth mae glöynnod byw yn ei hoffi?
Mae glöynnod byw yn ymweld â gerddi i yfed neithdar o flodau. Mae glöynnod byw yn brysur iawn ac mae neithdar yn darparu’r tanwydd maen nhw ei angen i aros yn yr awyr.
Mae llawer o blanhigion neithdar da’n rhai bythol sydd i’w gweld mewn borderi bach neu ddolydd ac yn hawdd eu tyfu. Hefyd mae glöynnod byw yn hoffi torheulo ar gerrig neu raean cynnes i gynhesu eu hadenydd.
Blodau i löynnod byw
Dylech osgoi cyltifarau magu mawr gyda blodau dwbl mawr sydd ddim yn cynnwys llawer o baill a neithdar, os o gwbl.
Mae amrywiaethau un blodyn yn well.
Plannwch ddetholiad da o wahanol blanhigion neithdar mewn llecynnau heulog.
Edrychwch ar ein rhestr o blanhigion ar gyfer pryfed peillio i gael syniadau ar gyfer eich gardd.
Pryd maen nhw angen ein help?
Rhaid gwneud yn siŵr bod blodau ar gael o ddechrau’r gwanwyn tan ddiwedd yr hydref.
Mae blodau cynnar yn wych i löynnod byw sy’n rhoi’r gorau i aeafgysgu, ac ar ddiwedd yr haf ac yn yr hydref maen nhw angen creu storfa yn barod ar gyfer y gaeaf.
Darparwch gartrefi dros y gaeaf fel gwrychoedd, eiddew neu blanhigion dringo bytholwyrdd eraill ar ffensys neu waliau i löynnod byw aeafgysgu ynddyn nhw.
Gaeafgysgu
Mae’r glöynnod byw gwyn a glas a’r gweirlöynnod yn treulio’r gaeaf fel chwiler.
Mae’r fantell dramor a’r fantell goch yn mudo i Ewrop fel rheol.
Mae melyn y rhafnwydd, mantell paun a’r trilliw bach yn gaeafgysgu mewn llwyni ac adeiladau fel oedolion.
Planhigion ar gyfer yr holl beillwyr drwy’r tymhorau
Dewiswch gymysgedd o blanhigion, llwyni a choed blodeuo tymhorol i sicrhau ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yn eich gardd. Edrychwch ar ein tudalennau am ddolydd am syniadau ar gyfer blodau gwyllt.
Gaeaf
Grug y gaeaf, mahonia, saffrwm, eirlysiau, collen ystwyth, Viburnum tinus, bocs pêr
Gwanwyn
Cynfas biws, alyswm, blodyn y fagwyr bythol piwswyn Bowles, drain duon, clychau’r gog, mwyar duon, glesyn y coed, meillion, cyfardwf, briallu Mair brodorol, saffrwm, blodyn llefrith, dant y llew, calon waedlyd, clafrllys y maes, sgorpionllys, llwyni cwrens blodeuog, grug, swllt dyn tlawd, llysiau’r ysgyfaint, llygad-llo mawr, briallu brodorol, helyg yr afr, helyg llwyd, roced pêr, fioledau, blodyn y fagwyr
Haf
Aliwm, aster (cyltifarau novi-angliae ac Aster amellus a’i gyltifarau; nid yw’r ddwy rywogaeth yma’n ymledol), troed-y-golomen, tafod yr ych, llysiau’r gwrid y tir âr, lelog Califfornia, clychlys, mintys y gath, cennin syfi, glas yr ŷd, ysgall pengrwn, pig y crëyr, esgalonia, melyn yr hwyr, bysedd y cŵn, grug, pedwar-ban-byd, gwyddfid, ysgol Jacob, clust yr oen, lafant, lobelia, bysedd-y-blaidd, penrhudd, gold, mintys, capan cornicyll, Phacelia tanacetifolia, fflocs, pabi, cor-rosyn, rhosmari, saets, clafrllys, rhywogaethau salfia, celyn y môr, penigan barfog, blodyn haul, teim, ferfain, gwifwrnwydden, gwiberlys, milddail
Hydref
Mintys y gath, blodyn pigwrn, cosmos, byddon chwerw, amrhydlwyd, grug, eiddew, y bengaled, maglys rhuddlas, blodyn Mihangel, Sedum spectabile ‘Rhewlys’, eurinllys, cribau’r pannwr, asgell
Planhigion bwyd larfa
Mae’n bwysig darparu bwyd ar gyfer y lindys yn ogystal â’r glöynnod byw yn eu llawn dwf
Dyma rai awgrymiadau
Pys-y-ceirw – glesyn cyffredin,
Rhafnwydd neu freuwydd - melyn y rhafnwydd,
Suran neu suran yr ŷd – copor bach,
Blodyn llefrith, garlleg y berth, swllt dyn tlawd a roced pêr - gwyn blaen oren, gwyn gwythïen werdd,
Celyn ac eiddew – glesyn y celyn,
Hopys – mantell garpiog,
Capan cornicyll – gwyn mawr a bach,
Glaswelltau brodorol; maeswellt, troed y ceiliog, gweunwellt, peiswellt, maswellt penwyn, rhonwellt, breichwellt y coed - gweirlöyn y ddôl, gweirlöyn y perthi, gweirlöyn y cloddiau, gweirlöyn y glaw, gwibiwr bach, gweirlöyn brych
Danadl poethion - trilliw bach, mantell paun, mantell garpiog, mantell goch,
Ysgall a danadl - mantell dramor
Ydi fy lawnt i’n bwysig i löynnod byw?
- Mae llawer o löynnod byw fel gweirlöyn y ddôl a gweirlöyn y perthi yn dodwy eu wyau ar laswellt felly gadewch i ardal dyfu’n dal dros yr haf.
- Peidiwch â thorri’r ardaloedd hyn yn llai na 15cm dros y gaeaf oherwydd bydd y lindys yn gaeafgysgu mewn twmpathau glaswelltog.
- Gadewch rai ardaloedd heb eu torri os gallwch chi.
Gardd fechan?
Peidiwch â phoeni – gallwch dyfu rhai o’r planhigion yma mewn potyn neu focs ffenest – bydd y glöynnod byw wrth eu bodd! Gwnewch yn siŵr bod digon o haul fel bod glöynnod byw yn gallu mwynhau’r cynhesrwydd.