O glychau’r gog i gân yr adar
O adar mudo’n cyrraedd yn araf bach i garpedi hardd o glychau’r gog o dan ein traed – mae’r gwanwyn yn stori o ddeffro o’r newydd a phopeth yn ymddangos yn bosib (yng ngeiriau Simon Barnes). Yn y gwanwyn mae pethau’n dechrau o’r newydd. Bywyd yn dechrau eto: y blodau cynnar yn meiddio codi’u pennau uwch ben y ddaear a’r adar yn gôr o gân. Mae’r gwanwyn yn un sioe fawr, o’r carpedi trwchus o glychau’r gog o dan ein traed i gôr byddarol y wawr.