Ein Haddewidion Ynghylch Gwaddol

Traeth Glaslyn Nature Reserve

Traeth Glaslyn Nature Reserve_Lin Cummins

CYNNWYS RHODD YN EICH EWYLLYS

Ein Haddewidion Ynghylch Gwaddol

Siarter Ewyllys

1. Byddwn yn parchu eich preifatrwydd. Mae eich Ewyllys yn ddogfen bersonol sy’n mynegi eich dymuniadau chi a byddwn yn trin unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni fel gwybodaeth gyfrinachol. 

2. Rydym yn deall y bydd eich teulu a’ch anwyliaid yn dod yn gyntaf bob amser.

3. Rydym yn deall mai eich penderfyniad chi yw hwn a bod rhaid i chi ei wneud yn eich amser eich hun.

4. Ni fyddwn byth yn dylanwadu’n amhriodol ar ymarferwyr cyfreithiol i annog rhoddion i’r Ymddiriedolaethau Natur, nac yn rhoi pwysau arnoch chi i adael rhodd yn eich Ewyllys.       

5. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os hoffech roi gwybod i ni eich bod wedi gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys. Hefyd, rydym yn parchu eich penderfyniad os yw’n well gennych beidio â gwneud hynny.

6. Ni fyddwn byth yn gofyn i chi ddatgelu gwerth neu fath y rhodd rydych wedi dewis ei adael.

7. Rydym yn parchu eich hawl, ar unrhyw adeg yn y dyfodol, i newid eich meddwl am rodd yn eich Ewyllys i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

8. Ni fydd amcanion a nodau’r Ymddiriedolaeth Natur yn newid yn y dyfodol rhagweladwy. Byddwn yn defnyddio eich rhodd yn ofalus ac yn gost-effeithiol fel ei bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar gadwraeth ac addysg bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru.

9. Byddwn yn trin pa rodd bynnag rydych yn ei gadael i ni yn ofalus, yn sensitif a gyda pharch.

10. Ar ôl derbyn eich rhodd, efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth am beth mae wedi ein helpu ni i’w gyflawni ac i gydnabod eich enw yn ein llyfr coffau, sydd ar gael i’w weld yn ein pencadlys, er mwyn diolch i chi ac annog ewyllysiau yn y dyfodol. Dim ond gyda chaniatâd penodol eich teulu neu ysgutor eich Ewyllys fyddwn ni’n gwneud hyn.