Ymledwyr Ecosystem

Asian Hornet with EI Logo

Ymledwyr Ecosystem

Beth am i ni fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru!

Ydych chi isio mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru?

Beth yw rhywogaethau ymledol?

Rhywogaethau anfrodorol ymledol (rhywogaethau ymledol) yw planhigion neu anifeiliaid sydd wedi cael eu cyflwyno gan fodau dynol i gorneli o’r byd lle na fyddent i’w gweld yn naturiol. Gallant effeithio ar yr amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a'r ffordd rydym yn byw.

Gall rhywogaethau ymledol reoli ecosystemau cyfan, gan drechu a bygwth bioamrywiaeth Cymru. Maent yn un o’r ‘pum prif’ sbardun i ddirywiad ym myd natur ochr yn ochr â llygredd, newidiadau mewn defnydd o’r tir a’r môr, ecsbloetio rhywogaethau a newid hinsawdd.

Gwyliwch ein fideo byr am sut gallwch chi helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol. Mi fydd y fideo Cymraeg ar gael yn fuan.

Darganfyddwch enghreifftiau o rywogaethau ymledol 

Beth yw Ymledwyr Ecosystem? 

Ymgyrch genedlaethol Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yw Ymledwyr Ecosystem i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a'u heffeithiau. Mae'r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar sut gallwn ni i gyd helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol ac atal eu lledaeniad drwy wella bioddiogelwch. Gallwch lawrlwytho pecyn partneriaid Ymledwyr Ecosystem yma, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau!

Darganfyddwch enghreifftiau o rywogaethau ymledol.... 

 

Japanese knotweed - Vaughn Matthews

Japanese knotweed © Vaughn Matthews

Clymog Japan

Cafodd Clymog Japan (Reynoutria japonica neu Fallopia japonica) ei gofnodi gyntaf yn y gwyllt ym Mhrydain Fawr ym Maesteg, De Cymru, yn 1886. Nid yw clymog Japan yn ymledu drwy hadau ond drwy risomau tanddaearol ymledol. Gall darn bach iawn o risom dyfu'n blanhigyn newydd! Gall clymog Japan dyfu drwy ddeunyddiau caled ac achosi difrod strwythurol i eiddo. Y ffordd orau o drin clymog Japan yw drwy reolaeth gemegol, darllenwch y canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Asian hornet worker on branch

Asian hornet worker © National Bee Unit

Cacynen Asia

Nid yw'r cacynen Asia (Vespa velutina) wedi'i sefydlu yn y DU eto ond mae wedi'i chofnodi ym Mhrydain Fawr ers mis Medi 2016. Er ei bod yn llai na'n cacynen feirch frodorol ni, gall dyfu hyd at 3cm o hyd ac mae’n ysglyfaethwr ymosodol iawn a fydd yn hela ein gwenyn mêl brodorol. Mae’r cacynen Asia yn Rhywogaeth Rhybudd, os gwelwch chi un mae angen i chi roi gwybod amdani. Mae gwybodaeth am sut i roi gwybod am ei gweld a mwy o wybodaeth am cacynen Asia ar gael yma.

American signal crayfish

Invasive non-native species American signal crayfish ©Trevor Renals

Cimwch afon America

Cyflwynwyd cimwch afon America (Pacifastacus leniusculus) am y tro cyntaf yn 1976, ac wedyn fe wnaethant ymledu yn gyflym iawn ledled y DU yn y 70au a'r 80au. Unwaith y bydd cimwch afon signal wedi sefydlu, mae'n anodd iawn cael gwared arnynt. Maent yn bwyta rhywogaethau dyfrol brodorol ac yn tyllu glannau afonydd gan eu hansefydlogi. Hefyd mae cimwch afon signal yn cario pla’r cimwch afon sy'n angheuol i'n poblogaethau brodorol ni o gimwch afon crafanc wen.

Himalayan balsam in flower

© NWWT

Jac y neidiwr

Wedi'i gofnodi gyntaf yn 1839, mae jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) wedi ymledu bellach ledled y DU ac i'w ganfod yn aml ar hyd glannau afonydd lle mae'n rheoli ac yn cael y gorau ar flodau brodorol. Mae gan jac y neidiwr godennau hadau ffrwydrol, sy'n gallu taflu’r 800 o hadau sydd gan bob planhigyn hyd at 7m i ffwrdd oddi wrth y planhigyn. Gallwch chi gael gwared â jac y neidiwr yn hawdd drwy ei dynnu allan wrth y gwreiddiau, edrychwch ar y blog yma am ragor o wybodaeth.

Grey squirrel

© Gillian Day

Gwiwer lwyd

Mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) yn frodorol i Ogledd America ac fe'i cofnodwyd am y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr yn 1828. Datganwyd bod eu mewnforio yn anghyfreithlon yn 1938, ond erbyn hynny roedden nhw eisoes wedi hen sefydlu ac yn lledaenu'n gyflym. Mae gwiwerod llwyd yn fygythiad mawr i’n poblogaethau brodorol o wiwerod coch. Maen nhw’n gallu cystadlu â nhw am fwyd a chynefin, a hefyd yn cario brech y wiwerod, afiechyd sy’n angheuol i’n gwiwerod coch brodorol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am weld gwiwerod (llwyd a choch) gan ddefnyddio Ap LERC Cymru.  

Topmouth Gudgeon

Llyfrothen uwchsafn

Wedi'i gofnodi gyntaf yn y gwyllt yn 1990, mae'r Llyfrothen uwchsafn (Pseudorasbora parva) yn rhywogaeth addurnol a gludwyd i Brydain Fawr drwy'r fasnach anifeiliaid anwes. Er eu bod yn fach, hyd at 11cm o hyd, maent yn gallu sefydlu mewn ardaloedd yn gyflym a chael effeithiau mawr ar rywogaethau brodorol drwy gystadleuaeth, ysglyfaethu a thrwy gario clefydau a pharasitiaid. Mae’r Llyfrothen uwchsafn yn Rhywogaeth Rhybudd, os gwelwch chi un, rhowch wybod i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.

Beth allwch chi ei wneud?

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i fynd i'r afael â'r bygythiad a achosir gan rywogaethau ymledol ...

Ymarfer bioddiogelwch: defnyddio chwistrellwr cludadwy i lanhau esgidiau ar ôl taith gerdded fwdlyd.

Ymarfer bioddiogelwch: defnyddio chwistrellwr cludadwy i lanhau esgidiau ar ôl taith gerdded fwdlyd. © Max Jones (2021)

Bioddiogelwch

Helpu i atal a lleihau lledaeniad rhywogaethau ymledol

Mwy o wybodaeth
American signal crayfish

Invasive non-native species American signal crayfish ©Trevor Renals

Adnabod rhywogaethau ymledol

Edrychwch ar ein canllaw adnabod poced i'ch helpu i adnabod rhywogaethau ymledol

Lawrlwythwch ein canllaw
American skunk cabbage

American skunk cabbage (Lysichiton americanus) © Tomos Jones 

Cofnodi rhywogaethau ymledol

Beth am fod yn ddinesydd wyddonydd a rhoi gwybod am y rhywogaethau ymledol a welwch yng Nghymru

Lawrlwythwch Ap LERC Cymru
Helen with Himalayan balsam - credit Jan Sheppard

Helen with Himalayan balsam - credit Jan Sheppard

Gwirfoddoli

Gallwch hefyd wirfoddoli a helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yn lleol

Dod yn wirfoddolwr

Os ydych chi’n mwynhau garddio neu weithgareddau dŵr hamdden, mae gennym ni rai awgrymiadau defnyddiol am sut gallwch chi atal lledaeniad rhywogaethau ymledol heddiw. Gwyliwch ein fideos byr isod!

Ydych chi'n mwynhau garddio?

Mae planhigion addurnol wedi cael eu cyflwyno ers canrifoedd er pleser garddwyr. Yn ogystal â bod yn hardd, gall planhigion addurnol gynnal bioamrywiaeth mewn gerddi a bod o fudd i'n hiechyd meddwl.

Mae nifer cymharol fach o blanhigion addurnol wedi dianc i'r gwyllt ac maent yn parhau i ddianc, lle gallant ddatblygu i fod yn ymledol.

Sut gall garddwyr helpu?

Dilynwch y tri ‘chyngor doeth’ yma sydd wedi’u datblygu gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr i Fynd at Wraidd y Mater a helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol i’r gwyllt:

  • Nabod eich planhigion - dewiswch y planhigion cywir a garddio heb rywogaethau ymledol
  • Stopio rhag ymledu - atal y lledaeniad a chadwch eich planhigion yn eich gardd
  • Compostio â gofal – cofiwch gael gwared ar ddeunydd nad oes ei eisiau yn gyfrifol

Gwyliwch ein fideo byr ar sut gall garddwyr helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol.

Gallwch lawrlwytho ein pamffled gyda chyngor penodol i arddwyr yma!

Dewisiadau eraill yn lle planhigion addurnol ymledol

Mae canllaw newydd o’r enw ‘Gardening Without Invasive Plants’ wedi cael ei ryddhau gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr. Bydd yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar sut gall garddwyr osgoi planhigion ymledol ac awgrymiadau ar gyfer dewisiadau eraill.

Cofnodi planhigion addurnol ymledol posibl

Gallwch chi hefyd ddod yn ddinesydd wyddonydd drwy gofnodi unrhyw blanhigion a allai fod yn ymledol sy'n tyfu yn eich gardd. Gall garddwyr chwarae rhan hanfodol wrth ganfod planhigion addurnol sy’n dangos ‘ymddygiad ymledol’, gallai hyn fod yn blanhigion addurnol sy’n lledaenu gormod yn eich gardd. Rhowch wybod i PlantAlert am unrhyw blanhigion a allai fod yn ymledol gan ddefnyddio eu harolwg ar-lein.

Ydych chi'n mwynhau gweithgareddau dŵr hamdden?

Mae llawer o rywogaethau ymledol wedi’u cyflwyno i ardaloedd o ddŵr, fel llynnoedd ac afonydd, gyda rhai rhywogaethau’n dianc yn ddamweiniol o gyfleusterau dyframaethu ac yn lledaenu drwy ddefnyddwyr dŵr hamdden. Er enghraifft, dihangodd cimychiaid afon Americanaidd o bysgodfeydd masnachol yn y 1970au ac ers hynny maent wedi difetha poblogaethau’r cimychiaid afon crafanc wen brodorol drwy drosglwyddo clefyd o'r enw pla’r cimychiaid afon.

Gall rhywogaethau ymledol achosi problemau amgylcheddol difrifol ac, mewn rhai achosion, problemau na ellir eu gwyrdroi, a gallant ymyrryd â'r gweithgareddau rydych yn eu mwynhau, fel pysgota a phadlo. Er enghraifft, gall dail-ceiniog arnofiol rwystro llafnau troi cychod a thagu dyfrffyrdd, gan gyfyngu ar fynediad a mwynhad.

Sut gallwch chi helpu?

Mae ‘Gwirio, Glanhau, Sychu’ yn ymgyrch bioddiogelwch sy'n cael ei arwain gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr, i ddiogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd rhag rhywogaethau ymledol.

Mae tri cham syml y gallwch eu dilyn i fynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan rywogaethau ymledol.

  • Edrych – ar eich offer a’ch dillad bob amser wrth adael y dŵr am unrhyw ddeunydd planhigion ac anifeiliaid
  • Golchi - gwnewch yn siŵr bod popeth wedi'i lanhau'n drylwyr cyn gynted ag y gallwch chi. Rhowch sylw arbennig i'r mannau llaith neu anodd eu glanhau, a defnyddiwch ddŵr poeth os yw hynny’n bosibl

  • Sychu - sychwch bopeth yn drylwyr am gyn hired â phosibl. Gall rhai rhywogaethau ymledol oroesi mewn amodau llaith am fwy na phythefnos

Gallwch ddod o hyd i gyngor penodol os ydych yn bysgotwr, rhwyfwr neu gychwr ar wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr.

Gwyliwch ein fideo byr ar sut gallwch chi helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol wrth fwynhau gweithgareddau dŵr hamdden. Gallwch hefyd lawrlwytho ein pamffled gyda chyngor penodol yma!

Himalayan balsam bashing at Parish Field

© Jess Minett - WaREN 

Ydych chi isio mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru? Cofrestrwch i dderbyn awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut gallwch chi helpu!

Carpobrotus edulis with logo
European Agricultural Fund for Rural Development