Bydd afancod yn helpu adferiad natur yng Nghymru
Mae afancod yn adnabyddus am eu gallu rhyfeddol i reoli cynefinoedd tir gwlyb, gan anadlu bywyd newydd ynddynt er budd bywyd gwyllt a phobl.
Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr byd natur. Mae’n nhw’n creu newidiadau i’w cynefinoedd sy’n creu gwlybdiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.
Afancod yng Nghymru
Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran y pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o’n strategaeth Tirweddau Byw a nawr rydyn ni’n gobeithio ailgyflwyno afancod i Gymru dan reolaeth.
Afancod yng Nghymru - Canlyniadau arolwg
Yng ngwanwyn 2023, fe wnaethon ni gomisiynu arolwg annibynnol gan Brifysgol Caerwysg i ymchwilio i’r agweddau a’r farn am ailgyflwyno afancod yng Nghymru.
Rydyn ni wedi cael y canlyniadau bellach a gallwch ddarllen canfyddiadau'r arolwg llawn.
Diolch i bawb gymerodd ran yn yr arolwg.
Pecyn cymorth addysg newydd ...
... ar gael fel dadlwythiad digidol AM DDIM i ysgolion cynradd ledled Cymru
Dod yn hyrwyddwr afancod
Ydych chi eisiau cael y newyddion diweddaraf am afancod a sut gallwch chi helpu? Os felly, tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr am afancod ...
Cefnogwch ein hafancod
Cyfrannu nawrPam mae afancod yn bwysig?
Roedd afancod i’w gweld yn eang ledled Cymru ar un adeg, ond oherwydd eu bod wedi cael eu hela gan ddyn am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau sawr, fe’u gwelwyd yn diflannu ar ôl y Canol Oesoedd yng Nghymru ac, erbyn diwedd yr 16eg Ganrif, roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.
Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn oherwydd maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ‘rhywogaeth gonglfaen’ am fod eu gweithgareddau’n gallu bod o fudd i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd.
Ein Cynlluniau
Ers 2008 rydym wedi bod yn cynnal astudiaethau ymarferoldeb, yn fwyaf diweddar am ail gyflwyniad tan reolaeth o’r afanc i mewn i ddalgylch yr Afon Dyfi. Rydym yn bwriadu cyflwyno cais trwydded at Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn 2023 ynglŷn â gollwng yr afancod yn y dalgylch. Rydyn ni wedi sefydlu Rhwydwaith Rheoli Afancod fel rhan o’n cynigion ac mae hyn yn cynnwys sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr afancod a fydd wrth law i ddelio ag unrhyw broblemau sy’n cael eu hachosi gan afancod, fel ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau’r manteision mae afancod yn eu cynnig.
Ymhen amser, bydd ymgynghoriad cyhoeddus o dan arweiniad CNC i bobl gael lleisio eu barn ac wedyn gobeithio y bydd afancod yn ôl yn nhirwedd Cymru unwaith eto. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi!
Hefyd rydym wedi cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn gyda’u prosiect afanc ar eu gwarchodfa natur Cors Dyfi.
Eisiau gwybod mwy?
Ffeithiau ynglŷn â’r afancod, astudiaethau ac adroddiadau
Lawrlwytho'r 'Gweledigaeth Afancod i Gymru a Lloegr' o'r Ymddiriedolaethau Natur
Lawrlwytho ein llyfryn i afancod
Lawrlwytho Adroddiad Ymarferoldeb (fersiwn llawn)
Lawrlwytho Adroddiad Ymarferoldeb (Crynodeb Cymraeg)
Llawrlwythwch Adroddiad WildCru ar Ardrawiad Economaidd yr Afanc
Teulu Afanc Cors Dyfi
Mae’r teulu afanc ar Warchodfa Natur Cors Dyfi Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn nawr yn deulu o bedwar!
Yn y Gwanwyn o 2021 cyrhaeddodd y teulu afanc (Barti y tad, Bedw y fam a Byrti y mab) yn eu cartref newydd: clostir fawr oddi fewn i warchodfa natur Cors Dyfi, ble mae ganddynt ran bwysig mewn helpu rheoli y gynefin ar y warchodfa.
Mae nhw wedi ymgartrefu yn dda yn eu cartref newydd ac eleni maent wedi bridio yn lwyddiannus gyda chyrhaeddiad yr afanc bach cyntaf i gael genedigaeth yn y clostir.
Gwyliwch i weld beth mae ein afancod yn Cors Dyfi wedi bod yn eu wneud.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn mewn gwarchod ein treftadaeth naturiol. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n poeni am fywyd gwyllt i ymuno â nhw.
Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) yn cael ei darparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.