Rhywogaethau arbennig yr haf
Mae’r haf yn gyfnod o liw. Yn ystod y dydd, mae lliwiau’n gwibio ac yn hedfan ar hyd glan y dŵr wrth i las y dorlan a gweision y neidr fynd ati i hela. Mae glöynnod byw yn hedfan o flodyn i flodyn, ymlusgiaid yn torheulo yn yr haul ac adar y môr yn sgrechian ar lethrau’r clogwyni. Ac mae’r bwrlwm yn parhau yn y tywyllwch – ystlumod yn symud yn gyflym drwy’r awyr, y dylluan frech â’i chri oer a’r troellwyr yn rhincian, tra bo pryfed tân yn addurno’r nos gyda’u golau pen pin.