Glöynnod byw y coetir
Edrychwch i’r awyr am loÿnnod byw sy’n byw yn y canopi, fel y brithribinau, a sganiwch dopiau’r coed am gyfle i’w gweld yn hedfan. Mae clytiau o fieri neu lennyrch heulog yn lle da i weld brith y coed: un o’r ychydig loÿnnod byw sy’n ehangu i ardaloedd newydd.
Efallai y bydd rhaid chwilio’n fanwl am y rhywogaethau arbenigol hyn, ond mae’r wobr yn werth yr ymdrech.
Chwilio am loÿnnod byw mewn coetir yn eich ardal chi
Bydd ymweliad ag unrhyw un o’n gwarchodfeydd natur mewn coetir yn cynnig cyfle i chi weld glöynnod byw.
Beth i gadw llygad amdano
Mae llennyrch heulog, rhodfeydd ac ymylon coetir ymhlith y llefydd gorau i chwilio am amrywiaeth o rywogaethau. Mae dod â sbienddrych gyda chi’n syniad da a gall dod o hyd i blanhigyn bwyd larfaol glöynnod byw arbenigol wneud y chwilio ychydig yn haws.
Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn
Os nad ydych chi’n gallu dod i’n gwarchodfeydd natur ni yn y coetir, beth am ddilyn hynt a helynt glöynnod byw mewn ffyrdd eraill - darllenwch ‘The Butterfly Isles: A Summer In Search Of Our Emperors And Admirals’ gan Patrick Barkham.
Mwy o brofiadau bywyd gwyllt
O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.