Beth yw rhywogaethau anfrodorol goresgynnol?
Mae rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (rhywogaethau goresgynnol) yn cael eu cyflwyno gan bobl, boed hynny'n fwriadol neu'n anfwriadol, y tu hwnt i'w hystod naturiol. Yn cael ei gydnabod fel un o’r pum prif ffactor sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth yn fyd-eang, mae eu hymlediad yn bygwth goroesiad ein rhywogaethau brodorol, a gall achosi niwed i’n hamgylchedd, ein heconomi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw.
Pam mae gweithredu yn bwysig?
Rydym yn byw drwy argyfwng colli byd natur. Mae Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur yn y byd, ac mae llawer o’n bywyd gwyllt brodorol ni yn cael anhawster ar hyn o bryd (gydag un o bob saith rhywogaeth yn wynebu difodiant a mwy na 40% yn dirywio).
Ni allwn danamcangyfrif y bygythiad y mae INNS yn ei achosi i wydnwch ecosystemau.
Mae INNS yn fygythiad oherwydd:
- Ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol
- Cystadlu â rhywogaethau brodorol am adnoddau fel lle, golau, dŵr
- Cario clefydau newydd
- Croesi, dyma lle mae rhywogaeth oresgynnol yn bridio gyda rhywogaethau brodorol cysylltiedig ac yn newid eu 'cymeriad genetig'
Mae INNS hefyd yn creu effeithiau economaidd, gan effeithio ar adeiladau, cynhyrchiant amaethyddol a choedwigaeth, gan niweidio cyflwr cnydau a phridd. Amcangyfrifir eu bod yn costio £125 miliwn y flwyddyn i Gymru, cost sy'n debygol o fod yn cynyddu.
Beth allwch chi ei wneud?
Yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, rydym yn gwneud ymdrech ar y cyd i ddiogelu byd natur rhag INNS (a chyflawni 30 erbyn 30 i gynorthwyo byd natur i adfer). Ond mae angen eich help chi arnom! Dyma ychydig o ffyrdd y gallwch helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol:
Dod yn wyddonydd dinasyddion drwy ddod o hyd i rywogaethau goresgynnol a'u cofnodi. Mae gwybodaeth am rywogaethau gyda rhybudd ar hyn o bryd a sut i'w hadrodd yma.
Beth ydym ni'n ei wneud yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru?
Mae ymdrech ar y cyd yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i leihau effaith INNS ar yr amgylchedd naturiol. Mae hyn yn cynnwys nifer o brosiectau sy'n canolbwyntio ar wahanol ddulliau a gwahanol rannau o Ogledd Cymru a thu hwnt. Cewch ragor o wybodaeth isod.