Ymunwch â ni

A red squirrel sits on a tree branch in the snow in winter. The colour of the branch and snow match almost exactly the squirrels red-brown coat and white underside.

Red Squirrel © Mark Hamblin2020VISION 

Gwarchodwch y bywyd gwyllt rydych chi'n ei garu

Cynnig Aelodaeth Hanner Pris!

Dod yn aelod yw un o'r ffyrdd gorau i chi helpu i warchod bywyd gwyllt ar draws Gogledd Cymru

Mae gennym ni 35 o warchodfeydd natur gwych y gallwch chi ymweld â nhw, mae aelodau’n cael mynediad cynnar i fwy na 140 o ddigwyddiadau y flwyddyn ac maen nhw’n derbyn cylchgrawn Gogledd Cymru Wyllt sy'n cael ei ddosbarthu i’w cartref deirgwaith y flwyddyn, a'r cyfan wrth gael y teimlad cynnes braf hwnnw o wybod eich bod chi’n cyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu bywyd gwyllt bregus ar draws Gogledd Cymru.

Y cyfan am gyn lleied â £1.50 y mis, Hanner y pris arferol.

Cynnig Aelodaeth Hanner Pris!

Cynnig yn dod i ben 31 Ionawr 2025, aelodaeth blwyddyn gyntaf yw hanner y pris arferol.

Supporters benefits

© NWWT

Mae cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn derbyn...

Disgownt o 15% yn Cotswold Outdoors

Disgownt o 10% ar fynediad i Sŵ Môr Môn

Disgownt o 10% ar fynediad i Barc Teuluol Gelli Gyffwrdd

Disgownt wrth archebu y Guddfan Gwalch y pysgod yn Brenig

Membership pack shot

© NWWT

Mae'r aelodau'n derbyn

  • Canllaw lliw llawn, 96 tudalen, i warchodfeydd natur lleol
  • Tri rhifyn o gylchgrawn Gogledd Cymru Gwyllt y flwyddyn
  • Mynediad cynnar i fwy na 140 o ddigwyddiadau
  •  Gwahoddiad i'n Cyfarfod Blynyddol i Aelodau
  •  Cerdyn aelodaeth y mae posib ei lawrlwytho sy'n caniatáu mynediad i warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur ledled y DU 
Dod yn aelod heddiw
Gwyllt pack 100

Gwyllt Pack © NWWT

Aelodaeth i Deuluoedd

  • Mae aelodau teulu’n derbyn yr un buddion ag aelodau ond yn ogystal byddwch yn derbyn pecyn dechrau gwych “Gwylio Bywyd Gwyllt  i blant, yn cynnwys:
  • Llawlyfr, yn orlawn o bethau i'w gwneud yn eich gardd eich hun neu fannau gwyllt lleol
  • Posteri bywyd gwyllt anhygoel
  • Cylchgrawn llawn gweithgareddau, cwisiau a ffeithiau hynod ddiddorol yn cael ei anfon bedair gwaith y flwyddyn at y plant.
  • Sticeri bywyd gwyllt a bathodyn i ddangos eich bod wedi ymuno â'r clwb!
  • Gallwch ddewis derbyn y cylchgrawn yn y Gymraeg neu yn Saesneg
  • Yn cael eu postio i gyd yn uniongyrchol at eich plant

 

Ymuno fel teulu heddiw
Christmas gift (c) Kira auf der Heide

(c) Kira auf der Heide

Prynwch aelodaeth i rywun arall fel anrheg

Helpwch rywun arall i gysylltu â bywyd gwyllt eleni...

Nid yw Aelodaeth Rhodd wedi’i chynnwys yn y Cynnig Hanner Pris.

Prynwch fel anrheg

Dyma be sydd gan Iolo Williams Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Natur ddweud am ymuno â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Nid oedd gen i syniad fod gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru cyn gymaint o warchodfeydd natur, rwyf wedi mwynhau ymweld â nhw ac maen wych i wybod bod fy aelodaeth yn helpu i’w amddiffyn hwy.
Hazel Roberts, Llanfairfechan

Ydych chi eisiau ymuno ar-lein? Mae croeso i chi argraffu ein ffurflen Debyd Uniongyrchol a’i phostio atom ni!