Cyfarfod y tylluanod
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau dod i adnabod ein tylluanod gwynion preswyl. Mae’r tylluanod bach wedi gadael y bocs nythu erbyn hyn ac rydyn ni'n gobeithio y byddant yn mentro allan i gefn gwlad ehangach cyn bo hir. Mae’n bosibl y bydd oedolion y tylluanod gwynion yn dychwelyd i’r bocs yn ystod y misoedd nesaf felly cofiwch gadw llygad yn rheolaidd. Gallwch wylio rhywfaint o'r gweithgarwch cynharach isod.
Os y gwnaethoch golli ein sgwrs diweddar am dylluanod yna fe gewch wylio yma
Llinell Amser y tylluanod gwyn 2024
Galwch yn ôl, o dro i dro, i gael diweddariadau ar y tylluanod gwyn nythol
Mehefin 2024
Dwy dylluan fechan wedi deor yn gynnar yn y mis.
Gorffennaf 2024
Yn gynnar ym mis Gorffennaf, cafodd dwy dylluan fechan wryw iach eu modrwyo gan fodrwywyr adar trwyddedig. Mae hwn yn waith pwysig gan ei fod yn helpu i wella ein dealltwriaeth ni o boblogaethau'r dylluan wen a'u symudiadau. Mae plu gwyn iawn y frest ar y tylluanod bach yn dweud wrthym ni mai gwrywod ydyn nhw, ond i'w gweld ar y dde mae ychydig o blu brown golau o hyd.
Mae'n bosib mai’r dylluan wen, hardd yw ein tylluan fwyaf poblogaidd. Mae’n hawdd ei hadnabod gyda'i wyneb siâp calon unigryw, ei phlu gwyn pur, a'i thaith hedfan dawel. Cadwch lygad arni wrth iddi hedfan yn isel dros gaeau a gwrychoedd pan fydd hi’n gwawrio a nosi.
Wrth eich bodd yn gwylio ein tylluanod?
Cyngor ar edrych arnyn nhw: Os ydych chi'n hofran eich cyrchwr dros y gwe gamera mae gennych opsiynau i gymryd ciplun, chwyddo i mewn neu lenwi eich sgrin
Mae’r rhain yn lluniau byw, heb eu golygu o dylluanod gwynion. Ar adegau penodol, mae'n bosibl y bydd delweddau annymunol o'r byd naturiol. Adar gwyllt yw'r rhain; mae'r tylluanod gwynion sy'n bridio a'u nyth yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Caiff yr adar eu monitro o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Ariannwyd yr offer sy’n cael eu ddefnyddio wrth ffrydio’n fyw y delweddau yma gan Gynllun Gymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gweinyddu gan CGGC