Gwirfoddoli

Conservation volunteering
cYMRYD RHAN

Gwirfoddoli dros fywyd gwyllt

Os hoffech chi wneud rhywbeth i helpu i warchod eich bywyd gwyllt lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Os ydych chi’n hoffi gweithio dan do neu yn yr awyr agored, mae llawer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli ar gael gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Y cam cyntaf i wirfoddoli yw cofrestru drwy lenwi ein ffurflen ar-lein – wedyn byddwn yn cysylltu â chi am sgwrs am y math o wirfoddoli y byddech yn hoffi ei wneud. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt lleol, cewch gyfarfod pobl newydd; cadw’n heini; dysgu sgiliau newydd; rhannu eich profiadau; gwella eich gwybodaeth am gadwraeth bywyd gwyllt ac wrth gwrs, mwynhau eich hun! Os oes gennych chi ddiwrnod llawn i’w sbario neu ddim ond ychydig oriau, bydd yr amser rydych chi’n ei roi’n gwneud byd o wahaniaeth. Beth am ddechrau arni nawr?

Bod yn wirfoddolwr

Volunteer sawing

Katrina Martin / 2020VISION

Gwirfoddoli cadwraeth

Gweithredu’n ymarferol dros fywyd gwyllt

 

Mwy o wybodaeth
Bottlenose Dolphin - John MacPherson/2020VISION

John MacPherson/2020VISION

Deifio i mewn i helpu bywyd gwyllt y môr!

Os ydych chi’n hoffi bod ar lan y môr beth am wirfoddoli gyda Moroedd Byw Cymru!

Mwy o wybodaeth
Photo of shop staff

NWWT Lin Cummins

Gwirfoddoli mewn siop

Lleoliadau hyfryd a digon o gyfleoedd i gwrdd â phobl!

 

Mwy o wybodaeth

Cael blas ar yrfa mewn cadwraeth

Lleoliadau myfyrwyr a phrofiad gwaith           

Os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg ac yn meddwl am yrfa mewn cadwraeth, efallai y bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n gallu cynnig cyfle i chi gwblhau eich profiad gwaith neu leoliad myfyriwr. Gallai hwn fod y cam cyntaf gennych chi at yrfa yn y sector amgylcheddol cystadleuol. Gall y lleoliadau fod rhwng 1 wythnos a 3 mis. Gellir ystyried lleoliadau hirach ar sail unigol. 

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

An osprey in flight carrying nesting materials

Osprey flying to its nest with sticks © Andy Rouse/2020VISION

Volunteering with ospreys at Llyn Brenig

Volunteer at the osprey exhibition, lookout and hide at Llyn Brenig. You can also volunteer from home, as part of Osprey Watch! 

Get in touch
Terns at NWWT Cemlyn nature reserve

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve © Nia Haf Jones

Volunteering at our Cemlyn Nature Reserve

Get in touch

Ffyrdd eraill o wirfoddoli

Gwirfoddoli gyda'r cyhoedd ac mewn digwyddiadau

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal neu'n mynychu mwy na 200 o ddigwyddiadau cyhoeddus bob blwyddyn a bod gennym ni fwy na 400 o wirfoddolwyr cadwraeth gweithredol!

Ond dydi pawb ddim eisiau baeddu eu dwylo mewn gwarchodfa. Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr presennol a rhai newydd i'n cynorthwyo ni gyda rhai o'r digwyddiadau yma a / neu fod yn bresennol yn rhai o'n gwarchodfeydd ni fel pwynt cyswllt gyda'r ymddiriedolaeth.

Os ydi hynny'n rhywbeth y gallech chi fod â diddordeb ynddo, ewch i'n tudalen we ni i wirfoddolwyr am ragor o fanylion.

Os ydi hynny'n rhywbeth y gallech chi fod â diddordeb ynddo, cysylltwch â mark.roberts@northwaleswildlifetrust.org.uk am ragor o fanylion.