Dianc o Erddi! Gweithio gyda garddwyr mewn atal 'ymledwyr y dyfodol'

Yellow archangel

© Tomos Jones / NWWT

Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol

Dianc o Erddi!

Gweithio gyda garddwyr mewn atal 'ymledwyr y dyfodol'

Rydym angen chi! - helpwch ni adnabod ac atal 'ymledwyr y dyfodol'

Rydym yn ymgysylltu gyda garddwyr a rhanddeiliaid pwysig i adnabod ac atal 'ymledwyr y dyfodol'. Mi fyddwn yn rhoi ffocws mewn chwe lleoliad (gweler map). Byddwn yn edrych ar blanhigion addurnol yn eich gardd i weld pa rhai sy'n lledaenu a hefyd i'w gweld oddi allan i erddi (megis ardaloedd gwarchodedig cyfagos).

Garden Escapers Location Map

Garden Escapers Location Map © NWWT

Beth ydi rhywogaethau ymledol?

Yn fyd-eang ac yma yng Nghymru, mae planhigion addurnol sy’n lledaenu o erddi yn un o’r prif ffynonellau o rywogaethau ymledol sy'n chael effaith niweidiol ar ein bywyd gwyllt cynhenid. Mae'r rhan fwyaf o'r planhigion addurnol rydyn ni’n dod ar eu traws yn ein gerddi yn anfrodorol ond nad ydynt yn achosi problemau. Fodd bynnag, rydym yn labelu nifer bach fel rhywogaethau ymledol oherwydd eu bod wedi dianc gerddi ac yn effeithio ar yr amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’r ffordd rydyn ni’n byw. Mae rhywogaethau ymledol wedi cael eu hadnabod yn fyd-eang fel un o'r prif pum bygythiad i natur, a gallant ddod yn fwy o broblem oherwydd yr argyfwng hinsawdd.

Mae enghreifftiau o rywogaethau ymledol yn cynnwys clymog Japan (Reynoutria japonica), cennin trionglog (Allium triquetrum), crib-y-ceiliog (Crocosmia × crocosmiiflora) a clychau'r-gog Sbaenaidd (Hyacinthoides hispanica). Mae rhywogaethau sydd ddim yn ymledol ar hyn o bryd ond gyda photensial i fod yn ymledol yn cynnwys enghreifftiau fel 'chocolate vine' (Akebia quinata), bachgen llwm (Leycesteria formosa) ac blodyn-y-gwynt Japaneaidd (Anemone × hybrida).

Cyfarfod y tîm Dianc o Erddi

Dr Tomos Jones - Rheolwr Prosiect

Tomos Jones (WaREN Project Manager)

Tomos Jones © University of Reading

Mae diddordeb arbennig Tomos mewn adnabod planhigion addurnol a allai ddianc o erddi a dod yn ymledol yn y gwyllt. Mae'n frwd dros gynnwys y cyhoedd mewn materion amgylcheddol ac mewn cyfathrebu am wyddoniaeth. Mae hyn wedi cynnwys arddangosfa addysgol a enillodd aur yn y Parth Darganfod yn Sioe Flodau Chelsea y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn 2019 gyda Phrifysgol Reading. Yn frodor o Ynys Môn, mae Tomos yn mwynhau chwilio am degeirianau yng Ngogledd Cymru a thu hwnt ac mae’n arddwr brwd.

E-bost: Tomos.Jones@northwaleswildlifetrust.org.uk
Ffôn: 07726358228

Lisa Toth - Swyddog Prosiect

Lisa Toth portrait

Lisa Toth, Garden Escapers Project Officer © Lisa Toth

Mae Lisa yn arddwriaethwraig ac mae hi wedi’i hyfforddi’n broffesiynol fel Dylunydd Gerddi. Mae ganddi gymwysterau gan yr RHS, Capel Manor a’r London College of Garden Design yn Kew, sy’n goleg enwog iawn.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylunio plannu. Mae Lisa'n gweithio gyda'i chleientiaid ar beth i'w blannu, sut dylent reoli eu gerddi yn well a sut i osgoi rhywogaethau ymledol. Mae hi nawr yn cyfrannu ei gwybodaeth helaeth am blanhigion addurnol at brosiect Dihangwyr Gerddi! Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae Lisa yn mwynhau beicio a cherdded, nofio gwyllt, ioga ac archwilio cefn gwlad Cymru gyda’i chi. Mae hi'n siarad Almaeneg a Sbaeneg a ‘mae hi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd’.

E-bost: Lisa.Toth@northwaleswildlifetrust.org.uk
Ffôn: 07940924416

Ellen Williams – Swyddog Cyfathrebu a Marchnata

Mae Ellen yn angerddol am yr amgylchedd naturiol, ar ôl bod yn aelod gweithgar o fforwm ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers nifer o flynyddoedd a chwblhau ei hyfforddeiaeth cadwraeth yn 2019. Mae ganddi gymwysterau mewn hanes ac astudiaethau treftadaeth ac, yn ddiweddar, cwblhaodd interniaeth mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddi o ystod o faterion amgylcheddol a’r gwaith y mae YNGC yn ei wneud.

Bydd Ellen yn parhau â’i siwrnai fel rhan o’r tîm Dihangwyr Gerddi, gan gefnogi’r prosiect drwy helpu i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol posibl ar gyfryngau cymdeithasol, rheoli’r wefan, a thrwy ddatblygu arddangosfa addysgol.

E-bost: ellen.williams@northwaleswildlifetrust.org.uk

Alex Carey - Swyddog Cefnogi Rhywdwithiau Natur

Gyda phrofiad amrywiol ar draws sawl sefydliad, mae Alex yn arbenigo mewn rheoli busnes, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi data, optimeiddio prosesau, a gweinyddu cyllid. Fel Swyddog Cefnogi Rhwydwaith Natur, mae Alex yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r tîm Dihangwyr Gerddi i gyflawni’r prosiect o fewn y gyllideb ac ar amser, gan sicrhau bod holl amcanion y prosiect yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.

Mae hoffter Alex o’r awyr agored yn cynnwys archwilio gwarchodfeydd natur lleol a llecynnau o harddwch naturiol, hobi sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn angerdd i gefnogi YNGC gyda’i chenhadaeth i adfer byd natur.

Gwyliwch Tomos yn trafod sut gall garddwyr arbed lledaeniad rhywogaethau ymledol:

How can gardeners stop the spread of invasive species? © Garddio a Mwy, S4C

#plant_alert
Allium triquetrum

Allium triquetrum ©LisaToth

Oes planhigion yn lledaenu yn eich gardd?

Rydym isio clywed amdanynt! Dewch yn 'wyddonwyr dinesig' trwy eu cofrestru ar Plant Alert.

Plant Alert

#be_plant_wise

.

Tri ‘chyngor doeth’ ar sut allwch helpu

Dysgu sut i Fynd at Wraidd y Mater ac amddiffyn yr amgylchedd wrth fwynhau eich gardd.

Nabod eich planhigion

Dewiswch y planhigion cywir ar gyfer eich gardd, pwll neu nodwedd dwr. Lawrlwythwch eich canllaw am ddim ar blanhigion i ddefnyddio yn lle rhywogaethau ymledol.

A hand holding a label for a potted plant

Know what you grow, Garden Escapers © NWWT

Stopio rhag lledaenu

Cadwch eich planhigion yn eich gardd - peidio eu plannu, neu adael iddynt dyfu, yn y gwyllt.

Deadheading plants to stop seed dispersal

Stop the spread © NWWT

Compostio â gofal

Cael gwared ar ddeunydd nad oes ei eisiau, fel planhigion, gwreiddiau, hadau a phennau hadau  yn gyfrifol. Darganfod pa blanhigion ymledol gall ddim eu compostio a sut i gael gwared arnynt yn ddiogel.

Composting garden plants

Compost with care © NWWT

Am fwy o wybodaeth ar sut gall garddwyr arbed rhywogaethau ymledol ewch i:

Mynd at Wraidd y Mater

#resource-library
Garden Escapers logo

Garden Escapers logo ©

Llyfrgell adnoddau

Darganfod arweiniad ar sut i atal rhywogaethau ymledol a rhai all fod yn ymledol rhag cydio.

Darganfod adnoddau dysgu   Cyngor doeth ar arfer gorau 

Bod yn ymwybodol o'r deddfwriaeth diweddaraf  Cyngor doeth i weithwyr proffesiynol

Gallwch hefyd gysylltu efo ni:

lisa.toth@northwaleswildlifetrust.org.uk

Lottery heritage fund logo (Cronfa Treftadaeth) with Welsh Government

®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government