Bioamrywiaeth yn golygu Busnes
Oherwydd ei hanes unigryw mae Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn hafan bwysig i fywyd gwyllt. Gan ei bod yn stad ddiwydiannol mae’n gyfle gwych i integreiddio anghenion yr economi, yr amgylchedd a chymdeithas yn gwbl briodol mewn ffordd fuddiol i’r ddwy ochr.
Ein gweledigaeth ni yw gwneud y dirwedd o fewn ac o amgylch y stad ddiwydiannol yn fwy croesawus i fywyd gwyllt, yn fwy hygyrch i bobl, ac yn fwy deniadol i fusnesau, gan hefyd wella iechyd a lles cyflogeion a chymunedau cyfagos. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda busnesau lleol, partneriaid, gweithwyr a’r gymuned leol fel ei bod yn gynhwysol ac o fudd i bawb.
Mae byd natur ar garreg y drws yn llesol i bobl, ac mae hefyd yn llesol iawn i fusnesaucyflwynydd teledu ac awdur
Os hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn Nhirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam, neu os hoffech chi gefnogi’r prosiect fel noddwr corfforaethol, cysylltwch â:
Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirwedd Byw
adrian.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r prosiect yma hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n cael ei weinyddu gan WCVA, sy’n ein galluogi ni i weithio gyda busnesau, cymunedau a pherchnogion tir ar draws y stad.
