Beth yw Natur Drws Nesaf?
Mae Natur Drws Nesaf yn dod â chymunedau at ei gilydd i helpu byd natur i ffynnu lle maent yn byw ac yn gweithio. Diolch i £5 miliwn o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd Natur Drws Nesaf yn rhoi’r cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i helpu byd natur ar garreg eu drws, a gadael gwaddol naturiol barhaus er anrhydedd i Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Cymunedau’n cydweithio er lles pobl a byd natur
Mae Natur Drws Nesaf yn bartneriaeth ledled y DU rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Natur, a fydd yn gweld cymunedau ledled y DU yn dod at ei gilydd i warchod a hyrwyddo natur a bywyd gwyllt lle maent yn byw. O greu mannau cyfeillgar i fywyd gwyllt a thyfu bwyd i gompostio ac ymgyrchu, mae'r posibiliadau'n niferus.
I ddechrau, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cefnogi pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghorwen (Sir Ddinbych) a Gronant (Sir y Fflint), gan eu helpu i gysylltu ag eraill a thrawsnewid eu syniadau yn gamau gweithredu cadarnhaol.
Sut gallaf i gymryd rhan?
Os ydych chi’n byw naill ai yng Nghorwen neu yng Ngronant ac os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â’n tîm Natur Drws Nesaf.
Ddim yn byw yn yr ardaloedd yma? Peidiwch â phoeni! Mae gennym lawer o adnoddau ar gael i'ch helpu i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith eich hun o hyrwyddwyr natur yn eich cymuned.
Ddim yn barod i ddechrau eich grŵp eich hun eto? Mae hynny'n iawn - mae gennym ni ddigonedd o syniadau y gall pawb fwrw ymlaen â nhw, ar unwaith. Edrychwch ar ein tudalen 'Gweithredu dros fywyd gwyllt' am ysbrydoliaeth ac am stryd hyfryd, hapus a chyfeillgar i fywyd gwyllt. Beth am rannu rhai syniadau gyda'ch cymdogion hefyd? Mae angen i adferiad byd natur ddechrau nawr!
Dyma ychydig o syniadau i chi allu dechrau arni...