Cyfrannu

Greater butterfly orchid

Greater butterfly orchid_Philip Precey

EIN CEFNOGI NI

Cyfrannu rhodd

Ni allai Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru weithredu heb haelioni ei chefnogwyr. Mae pob ceiniog yn cyfrif!

Mae eich caredigrwydd chi’n helpu i warchod poblogaethau o fôr-wenoliaid yng Nghemlyn; pathewod yn Sir Ddinbych; a thegeirianau Cors Goch.

Gwnewch rodd

Mae eich rhodd yn ein helpu ni i greu amgylchedd sy'n llawn bywyd gwyllt, a gwerthfawrogwyd gan pawb.
£

Ffyrdd eraill o gyfrannu:

I wneud cyfraniad dros y ffôn, ffoniwch 01248 351541.

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’ a’u hanfon i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Llys Garth, Ffordd Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT.  Os yw’n bosib, argraffwch y datganiad Cymorth Rhodd isod a’i gynnwys gyda’ch cyfraniad!

Cofiwch amdanaf i!

Cefnogwch Bryn Ifan: Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chymunedau lleol, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bwriadu adfer byd natur ym Mryn Ifan – 450 o erwau ger Clynnog Fawr – er budd pobl a bywyd gwyllt. We need your continued support to raise funds to help nature recover at this special place.

Darganfod mwy

Gwneud cyfraniad er cof am rywun annwyl

Mae’n fraint ar ein rhan ni derbyn rhoddion er cof am anwyliaid. Mae posib rhoi rhoddion er cof i ni yn uniongyrchol, eu trefnu drwy drefnwyr angladdau neu eu sefydlu gan ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti. Gallwn hefyd eich helpu chi i sefydlu tudalen ar ein gwefan ni a fydd yn dathlu person arbennig i chi, ac yn casglu rhoddion ar eich rhan.

Darganfod mwy