Apêl Bryn Ifan

Apêl Bryn Ifan

£93,029
Mae Bryn Ifan yn gyfle prin i adfer byd natur a darparu buddion ehangach i’r economi a chymunedau lleol.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chymunedau lleol, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bwriadu adfer byd natur ym Mryn Ifan – 450 o erwau ger Clynnog Fawr – er budd pobl a bywyd gwyllt.

Mae caffael a'r rheolaeth barhaus ar Fryn Ifan wedi'i gyllido, a bydd yn cael ei gyllido, drwy ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys rhodd hael gan Aviva, a fydd yn galluogi i ni adfer coedwig law Geltaidd i lethrau Bwlch Mawr. Mae ein hapêl lwyddiannus wedi codi mwy na £75,000 ond bydd arnom angen eich cefnogaeth barhaus chi i godi arian i helpu byd natur i adfer yn y llecyn arbennig yma.

Yng Nghymru, mae bywyd gwyllt wedi bod yn prinhau ac erbyn hyn mae 17% o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant. Gyda’n gilydd, gallwn adfer cynefinoedd ar gyfer glöynnod byw prin, adar, rhedyn a blodau a hefyd cefnogi ffermio cynaliadwy ac adfywiol.

Does dim posib i ni wneud hyn heb eich
help chi – plîs cyfrannwch heddiw

Bryn Ifan - heddiw ...

 A close up of a butterfly with orange wings with a distinctive pattern of black lines and spots. Sat on  a plant with it's wings spread wide.

Small Pearl bordered Fritillary © Chris Lawrence

Diolch i ofal cydymdeimladol y perchnogion blaenorol, mae Bryn Ifan mewn cyflwr da ac mae rhai rhywogaethau prin i’w canfod yma eisoes. Fodd bynnag, mae angen adfer llethr Bwlch Mawr yn goetir, ac mae gan y caeau isaf botensial mawr i ddenu amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt.

... ac yfory

Grasshopper warbler singing from a bramble

© Richard Steel/2020VISION

O dan ein gofal ni, mae dyfodol Bryn Ifan yn ddisglair. Byddwn yn cefnogi ffermio adfywiol a fydd yn helpu byd natur; yn gwella gwlybdir o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn plannu coetir brodorol ar ffridd yr ucheldir lle byddai wedi tyfu'n naturiol flynyddoedd yn ôl.

Byddwn hefyd yn rhannu’r manteision ymhlith y gymuned ehangach drwy weithio’n agos gyda pherchnogion tir lleol, porwyr a chontractwyr – gan gynnwys partneriaeth sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda fferm Henbant Permaculture drws nesaf.