Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ross Hoddinott/2020VISION

Ross Hoddinott/2020VISION

Ffermio sy'n gyfeillgar i byd natur

Mae’n gyfnod hollbwysig i ffermio yng Nghymru. Mae’n amlwg nad yw ein system fwyd bresennol yn gweithio i ffermwyr, byd natur, yr hinsawdd a defnyddwyr hyd yn oed. Rydyn ni’n gweld byd natur yn dirywio’n gyflym ar dir fferm, mae afonydd wedi’u llygru gan ddŵr ffo amaethyddol ac mae ffermwyr yn cael anhawster i wneud eu busnesau’n hyfyw.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu am gyfnod hir, yn cael ei gyflwyno mewn llai na 12 mis ar ddechrau 2025. Mae’r Cynllun taliadau fferm ôl Brexit yma’n gyfle unwaith mewn oes i roi ffermio yng Nghymru ar sylfaen gynaliadwy gadarn a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae hefyd yn amser tyngedfennol i bobl leisio’u barn a dangos eu cefnogaeth i ffermwyr sy’n ffermio mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fyd natur. Rydyn ni’n adnabod llawer o ffermwyr sy’n cefnogi adfer bywyd gwyllt ar eu ffermydd, gwarchod afonydd rhag llygredd fferm a chynhyrchu bwyd mewn ffordd fwy cynaliadwy drwy leihau’r defnydd o blaladdwyr a gwrtaith. Dyma’r math o ffermio y mae cymaint ohonom ni eisiau ei weld ledled Cymru.

Cyfle i gwrdd â ffermwyr anhygoel sy'n gyfeillgar i fyd natur

Huw Foulkes, Sir Ddinbych

Huw Foulkes standing in a field of grass with cattle

Huw Foulkes

Gyda’i fuches o wartheg Red Poll pwrpas deuol sy’n cael eu bwydo’n gyfan gwbl ar borfa, mae Huw Foulkes o Fferm Pentrefelin yn Sir Ddinbych wedi mabwysiadu agwedd adfywiol at ffermio llaeth. Yn y system buchod a lloi yma, mae'r lloi yn aros gyda'u mamau nes eu bod yn cael eu diddyfnu'n naturiol, a'r buchod yn cael eu godro unwaith y dydd. Cam mawr cyntaf Huw oedd mynd yn gwbl organig a chael gwared ar y defnydd o wrtaith a chwistrellau cemegol, ynghyd â chyflwyno codlysiau sefydlogi nitrogen, fel maglys a meillion, i borfeydd y fferm. Mae rheoli’r pori hefyd wedi newid yn sylweddol, lle mae Huw yn rhoi'r buchod i bori ar gylchdro ar laswellt ffres bob dydd, dwywaith y dydd weithiau, a hefyd pori torfol. Mae cyflwyno coed ar y fferm, ac yn arbennig arbrawf tir pori coed, wedi helpu'r fferm i ddod yn fwy cyfeillgar i fyd natur hefyd. Mae Huw yn angerddol am ddull adfywiol o ffermio llaeth, lle nad yw lles anifeiliaid ac effaith amgylcheddol yn cael eu haberthu ar gyfer cynhyrchu llaeth ar raddfa fawr a throsiant.

Fe wnes i ddechrau ffermio fel hyn oherwydd fy mod i’n gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd ac yn gorfod gwrando ar yr hyn y mae fy nghwsmeriaid i ei eisiau. Maen nhw wedi bod yn dweud wrthyf i am eu pryderon am yr amgylchedd, ac fe wnaeth hynny i mi sylweddoli bod rhaid i mi wneud y fferm mor gynaliadwy â phosibl. Hefyd, roeddwn i eisiau sicrhau dyfodol i’r busnes heb orfod dibynnu ar fewnbynnau artiffisial a bwydydd anifeiliaid ategol. Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn o fod yn ffermio ac eisiau cynhyrchu bwyd yn y ffordd fwyaf cadarnhaol posibl a chael yr effaith negyddol leiaf ar yr amgylchedd naturiol.”

Owain Noble, Sir Ddinbych

Owain Noble standing in farming field of grass

Owain Noble

Fferm fechan gymysg yng nghysgod Moel Fodiar, yn edrych dros Ddyffryn Clwyd, ydi Bryn Cocyn. Mae ganddyn nhw ddefaid, gwartheg, grawnfwydydd, afalau, ffrwythau meddal a llysiau. Mae'r fferm wedi bod yn yr un teulu ers tair cenhedlaeth. Dyma fferm organig hynaf Gogledd Cymru. Maen nhw wedi bod yn ffermio’n organig ym Mryn Cocyn ers 1989 ac maen nhw hefyd yn denantiaid ar rywfaint o dir mynydd cyfagos, y maen nhw wedi’i ffermio’n organig ers 1978. Eu nod yw cynhyrchu bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol wneud yr un fath, gan weithio gyda byd natur yn hytrach nag yn ei erbyn a chyfrannu at yr economi leol drwy werthu drwy siopau lleol a Marchnadoedd Ffermwyr. Maen nhw'n credu bod amaethyddiaeth effeithlon a hynod gynhyrchiol yn hanfodol i gyd-fynd â'r angen am fwyd da, ond dim ond i'r graddau y gall y pridd a'i ddeddfau o ddefnydd a dychwelyd ei gynnal!

Fel ffermwr rydw i’n teimlo cyfrifoldeb i ddarparu bwyd iach i boblogaeth sy’n tyfu, a hefyd gofalu am yr amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo. Rydw i’n credu y gall ffermio cymysg, heb ddibynnu ar fewnbynnau ond, yn hytrach, ar systemau da byw, grawnfwydydd a garddwriaeth sy’n gweithio mewn cytgord, wella bioamrywiaeth a hefyd gwarchod yr aer, y pridd a'r dŵr rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Dyma beth rydw i'n gweithio tuag ato ar ein fferm deuluol fechan ni. Mae’r pleser o dyfu cnwd iach a gweld byd natur yn ffynnu hefyd yn gymhelliant mawr i mi ffermio’n organig ac yn gynaliadwy”.

Darllen ein newyddion diweddaraf am ffermio yma: