Ein heffaith

Harvest_mouse

Harvest mouse © Amy Lewis

Ein blwyddyn wyllt

Rydyn ni eisiau gweld Gogledd Cymru sydd â mwy o gyfoeth o fywyd gwyllt sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb: nod enfawr mewn byd lle mae bywyd gwyllt yn cael ei wthio i’r cyrion. 

Ond eto – rydyn ni, yn staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid – yn cymryd camau bob un dydd i wella llefydd ar gyfer bywyd gwyllt ac i gryfhau’r berthynas rhwng pobl Gogledd Cymru a’r amgylchedd lleol. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud byd o wahaniaeth. Eleni, rydyn ni wedi crynhoi ein gwaith mewn ‘adroddiad effaith’: cipolwg ar 55 mlynedd y mudiad lleol yn dathlu ei gyflawniadau. Mae rhai o’r prif ffigurau i’w gweld ar y dudalen yma o’r cylchgrawn, ond cofiwch ystyried darllen y ddogfen yn llawn. Gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli chi i barhau i’n helpu ni i weithio dros y dyfodol gwylltach mae ein plant, a’n bywyd gwyllt, yn haeddu ei etifeddu.

Our wild year in numbers
Impact Report 2023-2024 Cover image

Rhagair gan Frances Cattanach, Prif Swyddog Gweithredol a Howard Davies, Cadeirydd

Erbyn i’r adroddiad hwn gael ei argraffu, bydd pedwerydd Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth y Byd wedi cael ei chynnal ochr yn ochr â Chynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, lle bydd cynrychiolwyr wedi ystyried pynciau fel ‘Gwneud Iawn am Ddifrod Newid Hinsawdd’, ‘Ailadeiladu Ymddiriedaeth ac Adfer Gobaith’ a ‘Systemau Bwyd a Chemegau’. Mae’r holl faterion hyn yn atseinio ar lefel leol, i gyd yn cael effaith ar fywyd gwyllt, ac mae pob un yn ymwneud â gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru drwy ein strategaeth Dod â Natur yn Ôl, sy’n ein helpu i feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol. 

parhad ...

Yn ganolog i’n gwaith mae adfywio’r berthynas sydd gan bobl â natur, oherwydd os yw natur yn bwysig i bobl, bydd yn cael ei ystyried mewn penderfyniadau unigol a phenderfyniadau cymdeithasol – p’un a yw hynny’n ymwneud â sut mae tir fferm yn cael ei reoli; dewisiadau rydym ni’n eu gwneud dros ble rydym ni’n prynu ein bwyd; sut rydym ni’n teithio; neu yn syml sut rydym ni’n dewis treulio ein hamser gwerthfawr. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae angen newid systemig - ffyrdd newydd o weithio, creu partneriaethau newydd a gweithio’n galed i gefnogi eraill i helpu adfer natur.

Mae pobl felly yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn - a neb yn fwy felly na’r rhai sy’n ein cefnogi ni’n uniongyrchol. Mae ein niferoedd aelodaeth yn iach; rydym yn denu nifer uchel o wirfoddolwyr; rydym yn cael ein cefnogi gan amrywiaeth eang o gyllidwyr a phartneriaid; ac mae Rhoddion mewn Ewyllysiau yn cynrychioli ffrwd incwm hanfodol yr ydym yn ei throi’n gamau gweithredu uniongyrchol ar gyfer bywyd gwyllt. Diolch am yr 
ymddiriedaeth rydych chi’n ei rhoi ynom ni.