Cyflwyniad i PATH
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn parhau â'i rheolaeth barhaus ar rywogaethau estron ymledol o blanhigion yn nalgylch Afon Dyfrdwy Uchaf a Chanol. Y tro hwn rydym yn mynd i’r afael ag effaith y rhwydwaith o lwybrau troed fel llwybrau sy’n lledaenu.
Drwy ganolbwyntio ar wella profiad pobl o dreftadaeth naturiol drwy arwyddion, teithiau cerdded tywys sain, sgyrsiau a rheolaeth ar INNS, ein nod ni yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth a geir yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), a chael effaith gadarnhaol ar sut mae pobl yn ei gwerthfawrogi, a'u grymuso i'w gwarchod a'i gwella.
Ar hyn o bryd rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau INNS, ac yn cynllunio teithiau cerdded a fydd yn cyd-fynd â'n tywyswyr sain sydd i ddod. Cadwch lygad am ddiweddariadau am y prosiect dros y misoedd nesaf.
Cysylltu â’r Tîm
Gemma Rose - Rheolwr y Prosiect
Gemma.Rose@northwaleswildlifetrust.org.uk
Carl Williams - Swyddog y Prosiect
Carl.Williams@northwaleswildlifetrust.org.uk
Craig Wade - Swyddog y Prosiect
Craig.Wade@northwaleswildlifetrust.org.uk
Mae'r prosiect yma'n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur.
Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.