Uchafbwyntiau’r hydref
I lawer o blanhigion, pryfed a rhai mamaliaid, mae’r hydref yn gyfnod o arafu; o gau i lawr. Mae’n golygu newid ble a sut rydych chi’n byw i baratoi ar gyfer yr argyfwng blynyddol mawr: y gaeaf. I lawer o adar, cyrraedd a gadael yw’r drefn, rhai’n hedfan tua’r de i chwilio am fwyd a chynhesrwydd ac eraill yn cyrraedd o’r Arctig am aeaf mwynach. Yn y cyfamser, o’u cwmpas ym mhob man mae gwyrdd ir yr haf yn troi’n oren a brown, am yn ail â choch a phorffor yr aeron hardd.