Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer 2014-2020. Mae’r prosiect cydweithredol, uchelgeisiol hwn yn cwmpasu Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam i hwyluso Gogledd Cymru fwy gwydn.
Mae’r prosiect hwn yn parhau â’r gwaith a wnaed drwy brosiectau Lles Ein Hafon a Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) y Ddyfrdwy yn nalgylch Afon Dyfrdwy, yn ategu Prosiect Rheoli INNS y Ddyfrdwy Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy a’r prosiect WaREN, ac yn ehangu i hwyluso Gogledd Cymru mwy gwydn, gan godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â Rhywogaethau Estron Ymledol fel ffromlys chwarennog a chanclwm Japan drwy bedwar Prosiect Peilot:
• Gweithredu dros Bysgota
• Byddin Dinasyddion Bioddiogelwch
• Pori Cadwraeth
• Sganio'r Gorwel eDNA
Y Pedwar Peilots:
Gweithredu dros Bysgota
Gweithio mewn partneriaeth â chymuned Bysgota Gogledd Cymru i hwyluso’r genhedlaeth nesaf o bysgotwyr i brofi pysgota a’i fanteision i iechyd a lles, a chefnogi rheolaeth weithredol ar gynefin afonydd. Ydych chi'n gwybod am glwb a hoffai gymryd rhan? Rhowch wybod i ni!
Cyswllt: Craig Wade
Cynorthwy-ydd Prosiect NWREPP
Byddin Dinasyddion Bioddiogelwch
Datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr bioddiogelwch ledled Gogledd Cymru a ddatblygwyd gan Brosiect WaREN 2 SMS, gan roi’r sgiliau iddynt hyfforddi eu cymuned leol mewn arferion gorau o ran atal a bioddiogelwch, gan gynyddu’r gallu i wrthsefyll lledaeniad INNS ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt. Ydych chi’n rhan o Grŵp Gweithredu Cymunedol / Lleol a hoffai gymryd rhan? Rhowch wybod i ni!
Cyswllt: Charlie Richards
Swyddog Prosiect Bioddiogelwch NWREP
Pori Cadwraeth ar gyfer INNS
Yn bennaf yn parhau i reoli Ffromlys Chwarennog yn nalgylch Afon Dyfrdwy. Rydym yn ymchwilio i’r defnydd o bori gan dda byw fel adnodd rheoli cost isel ar gyfer rhywogaethau ymledol. Rydym yn chwilio am reolwyr tir a phorwyr yn yr ardal a hoffai gymryd rhan. Os ydych chi’n addas, cysylltwch!
Cyswllt: Carl Williams
Cynorthwy-ydd Prosiect NWREP
Sganio Gorwel Gwyddoniaeth Dinesydd eDNA
Gweithio gydag arweinwyr y diwydiant i ddatblygu adnodd monitro afonydd DNA amgylcheddol a fydd yn galluogi grwpiau lleol i wneud gwaith sganio’r gorwel ar gyfer rhywogaethau ymledol o fewn afonydd Cymru. Gwyliwch y gofod yma ...
Cyswllt: Kirsty Brown
Kirsty.Brown@NorthWalesWildlifeTrust.org.uk
Swyddog Prosiect Ymgysylltu
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys gweithgareddau i hybu iechyd, lles a chysylltedd / rhwydweithio cymunedau lleol.
Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, aelodau’r cyhoedd, rheolwyr tir, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau Afonydd, a sectorau fel hamdden, iechyd a busnesau, gan hefyd gynnig cefnogaeth a hyfforddiant, offer a chefnogaeth i Grwpiau Gweithredu Cymunedol / Lleol a Chlybiau Pysgota lleol.
I gydweithio / cymryd rhan, cysylltwch â:
Kirsty Brown | Rheolwr Prosiect INNS
E-bost: Kirsty.Brown@NorthWalesWildlifeTrust.org.uk | Ffôn: 07508 740 566
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.