Gweision y neidr a mursennod
Ni fyddai unrhyw drip allan yn yr haf yn gyflawn heb glywed sŵn cyfarwydd gwas y neidr yn goruchwylio wrth iddo hela uwch ben pwll gerllaw. Mae’r symudiadau yn yr awyr yn debyg i awyren filwrol gyflym wrth iddo blymio a throi i erlid ysglyfaeth, neu ddod yn agos at gael ei ddal yng nghrafangau hebog yr ehedydd. Mae’r pryfed hyblyg yma’n arglwyddiaethu ar diroedd gwlyb, rhostir a llennyrch mewn coetir hyd yn oed, gan fwydo ar bryfed, gwybed a’i gilydd hyd yn oed. Os oeddech chi’n meddwl mai dim ond ar loÿnnod byw fel pryfed y mae’n werth edrych ddwywaith, mae’r ysglyfaethwyr symudliw a lliwgar yma’n mynnu cael eu gwerthfawrogi hefyd.
Gwibio, arafu, hofran ac wedyn ymlaen eto; mae gwas y neidr yn datgelu harddwch ei adenydd symudliw yn yr haul a’i feistrolaeth lwyr ar yr awyr.
Chwilio am weision y neidr a mursennod yn eich ardal chi
Dim ond rhai o bleserau mawr ein gwarchodfeydd natur tir gwlyb ni yw gweision y neidr a mursennod ond, ymhlith y goreuon mae Cors Goch ar Ynys Môn, Cors Bodgynydd uwch ben Betws y Coed, Cors Maen Llwyd ger Llyn Brenig a Gwaith Powdwr ger Porthmadog.
Am beth ddylech chi chwilio
Mae 17 rhywogaeth o fursennod a 23 rhywogaeth o weision y neidr yn byw yn y DU, gydag ambell ymwelydd o gyfandir Ewrop. I’w gweld ym mhob cynefin bron, mae’r ysglyfaethwyr arswydus yma yn yr awyr yn dod â fflach o liw fel mae blodau gwyllt a glöynnod byw yn dechrau diflannu. Ac i’r gwylwyr adar sydd wedi ystyried rhoi eu sbienddrych o’r neilltu am y tro, cyn mudo mawr yr hydref, maent yn fwrlwm arall o fywyd gwyllt i’w wylio, a chystal pob tamaid â heidiau o adar.
Deall y gwahaniaeth! Fel arfer, mae mursennod yn deneuach ac yn gorffwys gyda’u hadenydd wedi plygu, ond mae gwas y neidr yn lletach ac yn cadw ei adenydd wedi’u lledu am allan. Mae’r mursennod cynharaf yn hedfan erbyn dechrau Mai tra bydd gwibiwr cyffredin olaf y flwyddyn yn dal i hedfan ar ddiwrnod cynnes ym mis Hydref efallai, gyda’r amrywiaeth fwyaf o rywogaethau i’w gweld yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Fel y rhan fwyaf o bryfed, mae gweision y neidr yn brysurach mewn tywydd cynnes a heulog, felly dewiswch eich diwrnod yn ddoeth. Bydd sbienddrych yn ddefnyddiol oherwydd bydd y rhan fwyaf yn hedfan i ffwrdd wrth i chi nesáu. Ac wrth gwrs, cymerwch ofal ar lan y dŵr.
Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd yno
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu cyrraedd un o’r gwarchodfeydd rhyfeddol yma – ychydig iawn o lefydd sydd heb gyfle o gwbl i weld gwas y neidr! Mae sawl rhywogaeth yn teithio pellter hir iawn oddi wrth ddŵr i fwydo mewn gerddi, caeau ac ar hyd ymylon coetiroedd. Un o’r rhai mwyaf am grwydro yw’r hebogwr mudol, sydd i’w weld yn hela ar hyd gwrychoedd cysgodol ym misoedd Awst a Medi.
Mwy o brofiadau bywyd gwyllt
O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.