Taith gerdded bywyd gwyllt a llên gwerin lleol

Wildlife & folklore walk cynwyd 

Wildlife & folklore walk cynwyd © Carl Williams NWWT

Taith gerdded bywyd gwyllt a llên gwerin lleol

Lleoliad:
Cynwyd, B4401, Cynwyd, Denbighshire, LL21 0AJ
Ymunwch â ni ar gyfer taith 6km o amgylch Cynwyd. Cyfle i ddysgu popeth am fywyd gwyllt lleol a mwynhau straeon llên gwerin cyfareddol gan Andy Harrop-Smith wrth i ni gerdded!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod yng nghilfan y B4401 yng Nghynwyd: ///truffles.responses.impaired SJ 05856 41485
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 2:30pm
A static map of Taith gerdded bywyd gwyllt a llên gwerin lleol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Taith gerdded gylch gymharol heriol o amgylch Cynwyd. Byddwn yn stopio’n rheolaidd am sylwadau a phwyntiau siarad am y bywyd gwyllt lleol, bygythiad rhywogaethau estron ymledol, ac i glywed straeon llên gwerin hudolus gan y storïwr arbenigol, Andy Harrop-Smith. 

Ar hyd y ffordd byddwn yn mwynhau golygfeydd godidog o rannau uchaf Dyffryn Dyfrdwy, gan siarad am yr ardal a’r hyn rydych chi’n debygol o’i ddarganfod yn y berl anghysbell yma.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Ni chaniateir cŵn

Symudedd

Dylech ddisgwyl i'r daith gerdded a'r sgwrs gymryd hyd at bedair awr a hanner. Byddwn yn cerdded oddi ar y prif lwybr yn bennaf dros gaeau a choetir lle gall fod yn wlyb dan draed.

Mae nifer o gamfeydd i ddringo drostynt ar hyd y llwybr, a gall y llystyfiant fod yn hongian dros y llwybrau yn y coetir.


Nid oes toiledau cyhoeddus ar hyd y llwybr yma. Y cyfleusterau agosaf yw toiledau cyhoeddus Llandrillo neu Gorwen. 

Beth i'w ddod

Nid oes lluniaeth ar gael felly dewch â chymaint o fwyd a dŵr â sydd angen am ychydig oriau yn yr awyr agored. Byddwn yn cael egwyl i ginio gyda golygfa. 

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod mewn esgidiau cryf (esgidiau cerdded yn ddelfrydol). Efallai y byddai gwisgo trowsus hir yn syniad da.

Cysylltwch â ni