Rhyddid 30 Diwrnod Gwyllt

Rhyddid 30 Diwrnod Gwyllt

Bee and poppy © Chris Gomersall

Mae Joanna Foat yn archwilio’r cyfnewid cudd rhwng byd natur a’r rhai sy’n cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt. Daw straeon personol o dristwch i lawenydd, straen i ysbrydoliaeth a thristwch i hapusrwydd i’r amlwg. Yn yr holl amrywiaeth cyfoethog o ffurfiau byd natur, mae breguster, gras a dealltwriaeth o sut bynnag rydyn ni’n ymddangos.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef, pan glywais i am 30 Diwrnod Gwyllt am y tro cyntaf, ei fod yn ymddangos mor amlwg. Rydw i'n hoff iawn o fyd natur, pwy sydd ddim? Yn fy mhen, fe wnes i ysgrifennu rhestr gyflym o'r pethau rydw i'n eu hoffi: gwylio adar, coed a chymylau - tic, tic, tic. Ond roeddwn i’n teimlo braidd yn flin pan ofynnodd rhywun i mi fynd am dro amser cinio. Oedden nhw ddim yn deall bod gen i gymaint o waith i’w wneud? Sut allwn i fforddio'r amser?

Fe wnes i feddwl, ‘Rydw i’n deall’. Ydw, rydw i'n gwybod bod 30 Diwrnod Gwyllt yn dda i chi, mae bod ym myd natur yn dda i chi. Ac roeddwn i'n deall ar lefel ddyfnach. Drwy flynyddoedd o bleser yn nofio yn y môr ar wyliau, yn cerdded drwy goetiroedd ac yn stopio i ryfeddu at yr olygfa anhygoel o flodau’n blodeuo, roeddwn i’n gwybod bod byd natur yn rhoi naws ‘teimlad da’ Nina Simone i mi.

Birch woodland

Lianne de Mello

Ond doeddwn i ddim yn ‘ei ddeall’ mewn gwirionedd ac yn sicr doeddwn i ddim yn gwneud 30 Diwrnod Gwyllt eisoes fel pe bai trwy ryw wyrth, dim ond oherwydd fy mod i’n gweithio i’r Ymddiriedolaethau Natur. Ond pam ddim? Roeddwn i’n brysur ac os oeddwn i’n gallu gorffen ar amser yn y gwaith, roedd gen i gant a mil o bethau i'w gwneud gartref. Pwy ar y ddaear fyddai'n gwneud popeth pe bawn i'n mynd am dro?

Wrth weithio ar her 30 Diwrnod Gwyllt dros nifer o flynyddoedd, fe wnes i ddarganfod bod 30 diwrnod yn olynol wir yn her. Roedd yn anodd troi cefn ar bwysau gwaith dyddiol, tasgau, gofynion teuluol, heriau personol a gwrthdaro mwy. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt wedi cyflawni’r troi cefn yma gyda llawer llai o straen a rhwystredigaeth.

Fe ddaeth dos dyddiol syml o gysylltiad ymwybodol â byd natur yn bleser dyddiol. Fe fyddwn i’n eistedd ac yn gwylio cacwn enfawr yn mynd rownd a rownd brigeryn pabi coch neu’n stopio i syllu ar löyn byw yn gostwng ei dafod hir i mewn i flodyn. Fe wnes i ddysgu llawer am fywyd gwyllt a gwahanol rywogaethau nad oeddwn i’n eu hadnabod o'r blaen.

Brimstone Butterfly

Brimstone ©Jim Higham

Roedd yr arfer dyddiol cyson o 30 diwrnod yn cael effaith gronnol, fel ymarfer corff, ac roedd ymdeimlad cynyddol o ryddid. Gyda phob diwrnod newydd, roedd yn dod yn haws tiwnio i mewn i fyd natur a thros amser, roedd mwy o le i anadlu a bodoli. Roedd yn ymddangos yr un mor bwysig i fy lles i ag yfed dŵr, bwyta bwyd maethlon neu gysgu dros gyfnod o fis. Fe wnes i ddechrau gweithio'n well a meddwl am syniadau creadigol newydd, teimlo llai o straen.

Fel gyda sefydlu unrhyw arferiad newydd, mae angen disgyblaeth a grym ewyllys arbennig ar y dechrau. Ond dros amser mae'n dod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd fel ymwybyddiaeth ofalgar neu arfer ysbrydol. Mae bod yn un gyda byd natur yn cyfateb i fod yn un gyda ni ein hunain ac mae hyn yn brydferth, yn heddychlon ac yn llawen. Felly i mi mae 30 Diwrnod Gwyllt yn debyg i ryddid. Onid ydi pawb eisiau teimlo dafn, pelydryn, blodyn, gardd neu awyr gyfan o ryddid ar yr awel unwaith bob dydd o leiaf?

Mae’n 10fed 30 Diwrnod Gwyllt eleni. Dros y blynyddoedd hynny, mae tair miliwn o bobl wedi cymryd rhan am gyfartaledd o 24 diwrnod. Mae wedi dod yn her natur fwyaf y DU. Os nad ydych chi wedi rhoi cynnig arni eich hun eto, beth am fynd amdani? Dydi hynny ddim mor hawdd ag y byddech chi’n meddwl. Ond yn sicr mae'n rhoi teimlad o ryddid llwyr i chi ac yn llawer mwy pleserus nag y gallech chi erioed ei ddychmygu.