Ynys Môn Gudd a Ffynnon Sylffwr Boston.

Large white water waves crash through a channel between some rocks, with white foam swirling over the rocks from the largest waves, and sea spray thrown high into the air.

Waves crashing over rocky coastline © Mark Hamblin - 2020vision

Ynys Môn Gudd a Ffynnon Sylffwr Boston.

Lleoliad:
Lligwy beach, Ynys Môn
,
LL72 8NL
Taith gerdded drawiadol gyda thraethau hardd, rhos iseldir, golygfeydd o’r mynyddoedd a ffynnon gudd – Ffynnon Sylffwr Boston.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Maes parcio Y Pilot Boat Inn, Dulas, Ynys Môn, LL70 9EX

Dyddiad

Time
10:00am - 3:00pm
A static map of Ynys Môn Gudd a Ffynnon Sylffwr Boston.

Ynglŷn â'r digwyddiad

Cerdded gyda golygfeydd i aber afon Dulas a heibio traethau tywodlyd hyfryd i ros iseldir cudd lle mae posib dod o hyd i ffynnon ddirgel, Ffynnon Sylffwr Boston. Wedyn byddwn yn mynd heibio i gynefinoedd amrywiol a hen eglwys cyn dringo i ben mynydd Bodafon i gael golygfeydd panoramig ar draws Ynys Môn a draw am Eryri. Bydd llwybrau cyhoeddus yn ein harwain ni’n ôl ar draws caeau i'r man cychwyn.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 10:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.

Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os y dymunwch.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Ni chaniateir cŵn

Symudedd

Taith gerdded 9 milltir gyda rhywfaint o dir creigiog, tir garw iawn ac ardaloedd corsiog. Mae'r llwybr cerdded yn cynnwys rhai dringfeydd serth ac nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr.

Beth i'w ddod

Gwisgwch esgidiau cryf i fynd am heic, dillad sydd yn addas i’r tywydd, a chofiwch ddod â phecyn bwyd a diod.

Cysylltwch â ni