Swyddog Grantiau

Swyddog Grantiau

Diwrnod cau:
Cyflog: £26,000-£28,000
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Llawn amser
Multiple locations:
North Wales Wildlife Trust, Head Office, Llys Garth, Garth Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
NWWT East office, Aberduna, Ffordd Maeshafn, Maeshafn, Denbigshire, CH7 5LD
Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Grantiau i gefnogi pob agwedd ar godi arian sy’n gysylltiedig â grantiau yn YNGC, gan gynnwys datblygu prosiectau ac arwain ar geisiadau grant unigol.

Byddwch o gefndir cyllid grant yn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol. Bydd gennych ddealltwriaeth o gadwraeth natur a hefyd profiad cadarn o ysgrifennu grantiau. Byddem yn disgwyl dealltwriaeth o sut mae cyllid grant yn gweithio a'r broses ymgeisio a'ch bod yn gyfforddus yn gweithio i derfynau amser caeth. Byddwch yn gyfathrebwr gwych, gydag arddull ddymunol, ac yn gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygiad busnes a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth Natur.

Rydych chi'n mwynhau archwilio cyfleoedd newydd a datrys problemau. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad chi, felly dylech fod yn gyffrous am yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i weithredu’n arloesol.

Mae disgrifiad swydd llawn ynghyd â'r Ffurflen Gais am Swydd i'w gweld isod

Dyddiad cau: 27 Awst 2024

Disgrifiad swydd: Swyddog Grantiau

Cyflwynwch eich CV ynghyd â'r Ffurflen Gais am Swydd trwy ddilyn y ddolen isod:

Gwneud cais yma