Adnabod morloi

A grey seal floats centre right of the picture, just above a layer of brown seaweeds that cover all the rocks on the seabed. behind the seaweed carpet there is a drop, and rising from deeper water there are large strands of kelp and similar seaweeds creating a dense forest like appearance in the background, but all tinted blue and slightly hazy as the visibility lowers at greater distance.

A grey seal © Alexander Mustard/2020VISION

Adnabod morloi

Lleoliad:
Cyfle i ddarganfod morloi a bywyd gwyllt arall wrth i ni archwilio’r ardal hardd yma o’r arfordir, gan gynnwys ein Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Maes parcio Bryn Aber

Dyddiad

Time
11:00am - 2:00pm
A static map of Adnabod morloi

Ynglŷn â'r digwyddiad

Taith gerdded gylch hamddenol ar hyd Llwybr yr Arfordir, llwybrau cyhoeddus a lonydd Ynys Môn. Byddwn yn cerdded i ben draw'r Trwyn (pentir) i wylio'r môr ac wedyn yn cerdded o gwmpas yr arfordir yn chwilio am forloi yn y môr ac wedi dod allan ar y creigiau. Efallai y byddwn ni’n gweld dolffiniaid, llamhidyddion ac adar môr hefyd. Gwisgwch ddillad addas a dewch â phicnic gyda chi. Croeso i deuluoedd.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 11:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.

Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg o dymunwch.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Ni chaniateir cŵn

Symudedd

Does dim toiledau cyhoeddus yma.

Beth i'w ddod

Dewch â sbienddrych os oes gennych chi un a hefyd picnic.

P

Gwybodaeth am barcio

Trowch oddi ar yr A5025 yn Nhregele i gyfeiriad Cemlyn. Ewch ymlaen ar hyd y lôn gan anwybyddu’r troad cyntaf ar y dde. Cymerwch yr opsiwn i'r dde wrth bob fforch ddilynol. Pan fyddwch chi’n gweld y môr-lyn, fe ddylai hwn fod ar y dde i chi bob amser.

Cysylltwch â ni