Gwarchodfa Natur Cemlyn

Cemlyn Nature Reserve

Cemlyn Nature Reserve_Lin Cummins

Sandwich tern

Sandwich tern_Ashley Cohen

Terns at Cemlyn Nature Reserve

Terns at Cemlyn Nature Reserve

Hare

Hare (c) Andrew Parkinson/2020Vision

Grasshopper warbler

Grasshopper warbler © Richard Steel2020VISION

Dolphins breaching_Sarah_Perry

Dolphins breaching_Sarah_Perry

Cemlyn Nature Reserve

©Cemlyn Nature Reserve / NWWT

Gwarchodfa Natur Cemlyn

Hafan ragorol i fywyd gwyllt gyda phoblogaeth drawiadol o adar môr yn rhan greiddiol ohoni. Mae ymweliad â Chemlyn yn llawn posibiliadau!

Lleoliad

Cemaes
Ynys Môn
LL67 0EA

OS Map Reference

SH337932
OS Explorer Map 262
A static map of Gwarchodfa Natur Cemlyn

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
25 hectares
image/svg+xmlz

Pris mynediad

Na
image/svg+xmlP

Manylion parcio

Maesydd parcio ger mannau gwylio
image/svg+xml

Anifeiliaid pori

Na
image/svg+xml

Llwybrau cerdded

Gall gerdded ar hyd yr holl esgair fod yn ymdrechgar iawn, ac mae’r serthrwydd yn ei wneud yn anaddas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn. Rhwng ddiwedd mis Ebrill a mis Awst, rydym yn gofyn i  ymwelwyr gerdded ar hyd yr esgair ar yr ochr tua’r môr i leihau’r aflonyddwch i’r cytref mor-wenoliaid. Fel dewis arall, mae teithiau haws i’w cael o gwmpas y pentir cyfagos. 

image/svg+xml

Mynediad

Nid oes posib mynd ar yr esgair o ro mân mewn cadair olwyn ac nid oes posib mynd â phramiau arni chwaith. Hefyd mae’n heriol i bobl ag anawsterau symud. Fodd bynnag, mae posib gweld y boblogaeth o fôr-wenoliaid o ychydig pellach i ffwrdd ar draws y môr-lyn: cerddwch yn ôl ar hyd y ffordd o’r maes parcio gorllewinol, gan gadw llygad am unrhyw draffig sy’n dod. Yn ystod tymor magu’r gwanwyn a’r haf, byddwch yn ufudd i’r wardeiniaid a’r ffensys os gwelwch yn dda, gan gadw ar ochr y gwymon i’r esgair er mwyn osgoi tarfu’n ddiangen ar yr adar.      

Cŵn

image/svg+xmlAr dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Yr haf ar gyfer mor-wenoliaid yn magu eu cywion; y gaeaf ar gyfer rhydgwyr

Am dan y warchodfa

Adar môr trawiadol 

Wedi’i leoli ar arfordir gogleddol gwyllt Ynys Môn, gyda’i esgair unigryw, hirgrwn o ro mân, mae Cemlyn yn safle anhygoel i ymweld ag ef. Mae’r esgair, sy’n cael ei hadnabod fel Esgair Cemlyn, yn gynefin pwysig i rywogaethau arbenigol o blanhigion, fel bresych y môr, gludlys arfor a phabi corniog melyn. Y tu hwnt i’r esgair, mae’r môrlyn bas yn gynefin diddorol i rywogaethau dyfrol fel y dyfrllys troellog prin ac mae’r ardaloedd o amgylch o eithin a glaswelltir yn gynefin i amrywiaeth eang o löynnod byw ac adar. Drwy gydol y flwyddyn, mae adar rhydio ac adar gwyllt i’w gweld o amgylch y môr-lyn ar y glannau cyfagos. Yr amser gorau i ymweld â’r safle yw rhwng misoedd Mai a Gorffennaf pan mae ynysoedd y môr-lyn yn croesawu poblogaethau’n nythu o fôr-wenoliaid y Gogledd, pigddu a chyffredin. Dyma’r unig boblogaeth nythu o’r Fôr-wennol Bigddu yng Nghymru ac mae’n olygfa drawiadol iawn ym myd natur – peidiwch â’i cholli!

A wyddoch chi?

Mae bywyd gwyllt Cemlyn, a’r adar yn benodol, wedi cael ei fonitro gan wardeiniaid bob haf ers 1981, gan roi gwybodaeth ryfeddol am sut mae ein harfordir yn newid.

Cyfarwyddiadau
Mae Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn, i’r gorllewin o Orsaf Pŵer Niwclear Wylfa. Trowch oddi ar yr A5025 yn Nhregele. I gyrraedd maes parcio’r ‘traeth’ (dwyrain), dilynwch y ffordd a throi’n sydyn i’r dde yn y fforch gyntaf. I gyrraedd maes parcio ‘Bryn Aber’ (gorllewin ac agosaf at fan gwylio’r warden – SH329 935), ewch ymlaen i’r chwith, gan fynd i’r dde wedyn ym mhob fforch y dowch iddi.  . 

Cysylltwch â ni

Cemlyn Nature Reserve infographic

Cylchdaith rhithiol

Darganfyddwch beth sydd yn wneud Gwarchodfa Natur Cemlyn y le mor wych i’r Môr-wenoliaid a beth rydym yn wneud i helpu nhw i ymgartrefu yno! Cymrwch daith rhithiol gyda ein infograffig rhyngweithiol (gyda diolch i brosiect LIFE Roseate Tern).

Cylchdaith rhithiol

Canllaw ar gyfer Adnabod Morwenoliaid

Yng Nghemlyn mae un o'r poblogaethau mwyaf o forwenoliaid yn y DU. Pwrpas y canllaw yma yw eich helpu i adnabod y prif rywogaethau yr ydych yn debygol o'u gweld yma yn ystod misoedd yr haf.

Lawrlwytho canllaw

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve © Nia Haf Jones

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
Grey seal

Grey seal - Alexander Mustard 2020Vision

Support Us

Join today!

A red squirrel sits on a tree branch in the snow in winter. The colour of the branch and snow match almost exactly the squirrels red-brown coat and white underside.
From £1.50 a month

Aelodaeth unigol / Individual

Aelodaeth unigol ar gyfer un person
Couples membership
From £1.75 a month

Cyd-aelodaeth / Joint

Aelodaeth ar y cyd i ddau berson
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.
From £2.00 a month

Aelodaeth deuluol / Family

Aelodaeth deuluol gydag ychwanegiadau i blant