Prosiect SIARC - Bore Ar Draeth Y Bermo
Lleoliad:
Dragon Theatre, Jubilee Road, Barmouth, LL42 1EF
Os ydych chi’n byw yn y Bermo neu yn Nolgellau, mae hwn i chi! Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn glanhau traeth, helfa wyau siarcod a gweithdy sbwriel morol.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Fel rhan o Brosiect SIARC rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau cymunedol ac aelodau yn y Bermo, Dolgellau a'r cyffiniau i gynyddu cyfleoedd i bobl ymwneud â'u glannau lleol. Ymunwch â ni am fore o weithgareddau am ddim yn y Bermo. Byddwn yn dechrau ar y traeth yn casglu sbwriel sydd wedi’i olchi i’r lan a’i ollwng, yn ogystal â dysgu am fôr-gathod a siarcod sy’n dodwy wyau yng Nghymru. Yn ôl yn y theatr fe fyddwn ni’n cael cinio cyn i Warcheidwaid Traeth y Cambrian arwain gweithdy creu torchau o sbwriel morol.
Bwcio
Pris / rhodd
FreeBooking Essential