Beth yw Tirwedd Fyw?
Nid yw gwarchodfeydd natur ar eu pen eu hunain yn ddigon i achub ein bywyd gwyllt gwerthfawr rhag diflannu. I alluogi i fywyd gwyllt ffynnu ac ymledu, rhaid i ni greu mwy o ofod i fywyd gwyllt sy’n cael ei reoli’n well ac sy’n fwy cysylltiedig, gyda chyfleoedd i bobl fwynhau byd natur. Mae’r dull hwn o weithredu’n creu’r hyn rydyn ni’n ei alw’n Dirweddau Byw, sydd o fudd i bawb ac yn diogelu bywyd gwyllt.
Tirweddau Byw yng Ngogledd Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar raddfa tirwedd gyda deiliaid tir, busnesau, sefydliadau ac unigolion i greu, gwella a chysylltu cynefinoedd yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithredu pedwar prosiect fel rhan o’n strategaeth Tirwedd Fyw.