Brenig Oes yr Efydd - tirwedd y meirw!

Bronze age Brenig: A landscape of the dead!

Bronze age Brenig © Sarah Calon NWWT

Brenig Oes yr Efydd - tirwedd y meirw!

Lleoliad:
Llyn Brenig, Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT
Ymunwch â’r archaeolegydd Gillian Smith am sgwrs unigryw a rhyfeddol gyda darluniau am gyn-hanes tirwedd Llyn Brenig

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Ystafell Arddangos Gweilch y Pysgod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Cerrigydrudion, Conwy, Cymru, LL21 9TT, w3w ///magazine.yours.yield

Dyddiad

Time
1:00pm - 3:00pm
A static map of Brenig Oes yr Efydd - tirwedd y meirw!

Ynglŷn â'r digwyddiad

Wrth edrych ar Lyn Brenig a'r cyffiniau heddiw, mae'n anodd dychmygu bod yr ardal yma ar un adeg yn fynwent helaeth o'r Oes Efydd. Ymhell cyn i'r llyn fodoli, roedd ein hynafiaid ni’n defnyddio'r ardal ar gyfer ffermio, angladdau a seremonïau. Fel tystiolaeth o'r olaf, fe wnaethant adael llawer o henebion carreg ar eu hôl, ac mae posib gweld nifer ohonyn nhw hyd heddiw. Ymunwch â'r archaeolegydd Gillian Smith am sgwrs unigryw a rhyfeddol gyda darluniau am gyn-hanes yr ardal. 

Bydd y sgwrs yn cael ei chyflwyno gan synau hynafol y didgeridoo a 'chwedl blaidd' gan y storïwr Andy Harrop-Smith. Wedyn, os byddwch yn dymuno, gallwch ymuno â thaith dywys ar hyd Llwybr Archaeoleg Llyn Brenig gydag Andy a Sarah (Swyddog Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig) o amgylch yr henebion angladdol sydd i’w gweld o hyd ar y bryniau a glan y llyn (taith gerdded o tua 4km / rhai bryniau). Bydd y daith (sydd ddim yn orfodol!) yn gofyn am daith fer mewn car i ochr bellaf y llyn, sy'n cynnwys rhai traciau gyda thyllau ynddyn nhw, ond mae posib teithio arnyn nhw. 

Bydd angen esgidiau cerdded da a dillad sy’n dal dŵr rhag ofn y bydd glaw.

Bwcio

Pris / rhodd

£5

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r daith ddewisol yn cynnwys tua 4km o gerdded / rhai bryniau.  Bydd y daith yn gofyn am daith fer mewn car i ochr bellaf y llyn, sy'n cynnwys rhai traciau gyda thyllau ynddyn nhw, ond mae posib teithio arnyn nhw.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Bydd angen esgidiau cerdded da a dillad sy’n dal dŵr rhag ofn y bydd glaw.

Cysylltwch â ni