Rydyn ni’n dyst i’r difodiant mwyaf ar y Ddaear ers y deinosoriaid
Mae 41% o’r rhywogaethau o bryfed yn wynebu difodiant. Mae pryfed yn diflannu hyd at 8 gwaith yn gyflymach nag anifeiliaid mwy.
Mae hwn yn achos pryder difrifol – i ni, yn ogystal ag i fywyd gwyllt. Mae pryfed yn peillio tri chwarter ein cnydau bwyd ni a dyma’r brif ffynhonnell o fwyd ar gyfer llawer o adar, mamaliaid bychain a physgod.
Mae colli cynefinoedd a gorddefnydd o blaladdwyr yn ddau brif achos y trychineb yma sydd ar y gorwel. Ond nid yw’n rhy hwyr i weithredu. Gall poblogaethau o bryfed adfer ac rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud i’w hachub nhw.
Gyda’n gilydd, gallwn greu Dyfodol Gwyllt i bryfed.

Bumblebee on dandelion © Katrina Martin / 2020VISION
Dau gam gweithredu a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth:
1. STOPIO lladd pryfed drwy leihau eich defnydd o blaladdwyr lle rydych chi’n byw ac yn gweithio
2. DECHRAU creu cynefinoedd mwy cyfeillgar i bryfed yn eich gardd a’ch cymuned leol

Tyfu eich dôl fechan eich hun yn yr ardd
Llawrlwythwch eich taflen
Wildflower meadow on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape project © Mark Greenhough
Gwirfoddolwch hoffom ni
Ymunwch â gwirfoddolwyr eraill a helpu i greu cynefinoedd cyfeillgar i bryfed yn eich ardal chi!
Diriwiant Pryfetach a Pam eu bod yn Bwysig
Mae’r adroddiad hwn, gan yr Athro Dave Goulson, yn crynhoi rhywfaint o’r dystiolaeth orau sydd ar gael am ddirywiad pryfed ac mae’n cynnig cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu y gellir eu rhoi ar waith ar bob lefel mewn cymdeithas er mwyn adfer eu hamrywiaeth a’u niferoedd.

Worker European honey bees (Apis mellifera) on honeycomb © Chris Gomersall/2020VISION
Diriwiant Pryfetach a Pam eu bod yn Bwysig
Gwneud gwahaniaeth heddiw ...
Rydyn ni eisiau gweld Rhwydwaith Adfer Natur yn rhan o’r gyfraith fel bod gan fyd natur fwy o lefydd gwyllt sy’n fwy ac wedi’u cysylltu’n well. Drwy greu ‘llecynnau pryfed’ yn eich gardd i ddenu pryfed, bydd eich ardal wyllt yn dod yn rhan o’r darlun mwy – byd naturiol cysylltiedig lle gall bywyd gwyllt ffynnu. Gwyliwch ein ffilm fer Wilder Future gyda Syr David Attenborough yn esbonio pwysigrwydd Rhwydweithiau Adfer Natur.
The Wildlife Trusts play a very important part in protecting our natural heritage. I would encourage anyone who cares about wildlife to join them