Ein gwaith ar warchodfeydd natuR

Porth Diana Nature Reserve. A rocky outcrop on the reserve, with layered striations, and small plants and grasses growing out of the larger cracks in the rock.

Porth Diana Nature Reserve_Lin Cummins

AMDANOM NI

Ein gwaith ar warchodfeydd natur

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n rheoli mwy na 750 hectar o dir, gan gynnwys rhai o warchodfeydd natur gorau gogledd Cymru.

Mae’r safleoedd sydd yn ein gofal ni’n gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt, ac yn cynnwys coetiroedd hynafol, rhos yn yr ucheldir, rhostir, glaswelltir llawn rhywogaethau, môr-lynnoedd arfordirol, twyni a thir gwlyb.

Mae’r tirweddau hyn angen technegau amrywiol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a’u gwella er budd bywyd gwyllt, ac yn ddiogel i’r cyhoedd ymweld â hwy. Gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr, mae staff gwarchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth yn treulio eu hamser yn gofalu am ein safleoedd ni. 

Y safleoedd yn ein gofal

Dod yn aelod i barhau â’n gwaith

Mae natur mewn trafferthion. Beth am ddod yn aelod i gefnogi ein gwaith ni’n gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi mor hoff ohono yng Ngogledd Cymru.

Dod yn aelod