Ymunwch Prosiect SIARC, Ffrindiau Pwllheli, gwasanaeth llyfrgell Gwynedd, cynghorwyr lleol, staff o dîm Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau, Ecoamgueddfa, Cyfle a dîm Y Môr a Ni i ddathlu bywyd gwyllt arfordirol a threftadaeth ddiwylliannol Pwllheli yn Neuadd Dwyfor, ac ar daith ar y 16eg a 17eg Tachwedd!
Ynglŷn â'r digwyddiad
Be sy mlaen?
Dyma grynodeb cyflym o'r diwrnod ac rydym wedi cynnwys poster am y penwythnos yn yr e-bost hwn gyda mwy o fanylion:
16/11
- Gweithgareddau celf i deuluoedd 10:00 – 12:30 (archebwch yma)
- Sgwrs addas i deuluoedd ar siarcod a morgathod am 14:00 (uchafswm o 30 o bobl, dim angen archebu)
- Stondinau gyda gwybodaeth a gweithgareddau 13:00 – 16:00 (dim angen archebu)
- Dechrau am 19:00 Noson o sgyrsiau ymlaen gan gynnwys Prosiect SIARC: siarcod a morgathod, Ffrindiau Pwllheli: Pwllheli, Tref yng nghanol Byd Natur, Pen Llŷn a'r Sarnau: O Dan y Don (archebwch yma)
17/11
- 10:00 – 12:00 Helfa Casys Wyau ar Draeth Pwllheli (archebwch yma)
- 14:00 – 16:00 Taith gerdded dywysedig ar Lôn Cob Bach gyda Ffrindiau Pwllheli (dim angen archebu, cyfarfod ym Maes Parcio Lôn Cob Bach, LL53 5NS)
Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn ystyried ymuno â ni a byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech rannu'r wybodaeth hon ag eraill i helpu gyda hysbysebu.
Bwcio
Pris / rhodd
AM DDIMCysylltwch â ni
Nia Jones
Cysylltu e-bost: nia.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk