Diwrnod cofnodwyr ffyngau

A pair of small bright red fungi, with white gills underneath, in the classic toadstool shape. Growing at ground level from between grasses and other small plants.

Waxcap fungi Eithinog © Helen Carter-Emsell NWWT.

Coral fungi Eithinog

Coral fungi Eithinog © Helen Carter-Emsell NWWT.

Diwrnod cofnodwyr ffyngau

Lleoliad:
Ymunwch â ni i chwilio am ffyngau a’u cofnodi nhw yn ein Gwarchodfa Natur ni yn Eithinog. Yn addas ar gyfer dechreuwyr ac arbenigwyr.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth fynedfa'r warchodfa, gyferbyn â'r gilfan.: LL57 2GZ / ///unpainted.crisis.cinemas. Parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd.

Dyddiad

Time
10:30am - 2:00pm
A static map of Diwrnod cofnodwyr ffyngau

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae Gwarchodfa Natur Eithinog yn cael ei rheoli gan staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bennaf i gadw’r amodau gorau ar gyfer ffyngau.

Mae cynnal arolygon yn ein gwarchodfeydd ni’n helpu i sicrhau ein bod yn eu rheoli’n gywir ond gall ffyngau fod yn anodd dod o hyd iddyn nhw, felly mae arnom ni angen eich help chi i gynnal yr arolygon yma ac arolygon eraill ar draws ein gwarchodfeydd. Ymunwch â’n swyddog Natur yn Cyfrif ac arbenigwr ffyngau i chwilio am unrhyw ffyngau y gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw a’u cofnodi.

Byddwn yn cofnodi'r ffyngau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Does dim angen unrhyw brofiad oherwydd bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu rhoi.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r warchodfa'n cynnwys caeau agored gydag ardaloedd gwlyb ac ymylon coediog gyda hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau eraill. Gall y llwybrau fod yn fwdlyd neu'n wlyb mewn gwahanol leoliadau drwy gydol y flwyddyn, gydag arwynebau garw a serth weithiau.

Mae giatiau mochyn wrth fynedfa'r warchodfa a rhwng caeau, a all gyfyngu ar fynediad.

Cofiwch, does dim toiledau ar y safle yma.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â diod, pecyn bwyd a dillad cynnes.
Mae'r warchodfa'n cynnwys caeau agored gydag ardaloedd gwlyb ac ymylon coediog. Fe all y llwybrau fod yn fwdlyd ac weithiau'n serth, rydyn ni’n argymell eich bod yn gwisgo esgidiau priodol.

Cysylltwch â ni