Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 ac wedyn ein Darlith Lacey flynyddol

Spinnies Aberogwen Nature Reserve

Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Eirly Edwards - Behi

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 ac wedyn ein Darlith Lacey flynyddol

Lleoliad:
Main Arts Buildling, Bangor University., Building 51, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
Mae croeso i bob aelod a chefnogwr yn ein 61ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Dyma’ch cyfle chi i glywed am y gwaith mae eich Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn ei wneud a’n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol AM DDIM i'w fynychu ond cofrestrwch isod.

Dilynir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan ein sgwrs gyhoeddus flynyddol (Darlith Lacey, tocynnau ar werth nawr) ... gyda’r siaradwr gwadd Dr Claire Whittle, sy’n frwd am chwilod y dom ac yn Arweinydd Milfeddygol ar gyfer ‘Dung Beetles for Farmers’.

Manylion y digwyddiad

Dyddiad

Time
5:00pm - 9:00pm
A static map of Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 ac wedyn ein Darlith Lacey flynyddol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 ac wedyn ein sgwrs gyhoeddus flynyddol (Darlith Lacey), y cyfan ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, sy’n adeilad godidog. Croeso i bawb! Aelodau a phobl sydd ddim yn aelodau. 

 

CCB 17:00 – 18:30 
...Eich cyfle chi i glywed am y gwaith mae eich Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn ei wneud a'n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol, ac i bleidleisio ar rai penderfyniadau ffurfiol. Bydd te a choffi ar gael wrth i chi gyrraedd. 

'Cyfarfod yr Ymddiriedolaeth' 18:30 - 19:30... Ymunwch â ni am stondinau gwybodaeth bywyd gwyllt, siopa Nadolig a lluniaeth (ar gyfer bwffe, archebwch ymlaen llaw)! 

Sgwrs gyhoeddus (Darlith Lacey) 19:30 – 21:00 ... sgwrs hynod ddiddorol gyda’r siaradwr gwadd Dr Claire Whittle, sy’n frwd dros chwilod y dom ac yn Arweinydd Milfeddygol ar gyfer ‘Dung Beetles for Farmers’. 

TOCYNNAU: Cliciwch ar y botwm archebu isod a dewiswch eich opsiwn ar gyfer tocyn:

  • Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ni AM DDIM i'w fynychu ond cofrestrwch drwy'r botwm archebu 

  • Tocynnau’r sgwrs gyhoeddus (Darlith Lacey) - £9 i oedolion neu £6 i bawb dan 25 oed a myfyrwyr 

  • Bwffe* £10 - Cofiwch archebu ymlaen llaw (archebion olaf erbyn 02 Tachwedd) 

* Detholiad o frechdanau a bara lapio gyda llenwadau llysieuol, platiad o ffrwythau ffres tymhorol neu frowni siocled cartref ‘Prifysgol Bangor’, a hefyd paned boeth.

Bwcio

Pris / rhodd

1) Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Am ddim ond cofrestrwch i fynychu

2) Darlith Lacey £9 neu £6 Dan 25 a myfyrwyr (ffioedd archebu yn berthnasol)

3) Bwffe £10 (archebion olaf erbyn 02 Tachwedd)

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Plant, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Symudedd

Os oes gennych chi anghenion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch ag ian.campbell@northwaleswildlifetrust.org.uk cyn y digwyddiad. Gadewch rif ffôn rhag ofn y bydd angen eglurhad pellach o unrhyw fath. 

i

Facilities

Toiledau
Caffi / lluniaeth
Toiled i'r anabl
Disabled parking

Cysylltwch â ni

Ian Campbell
Rhif Cyswllt: 01248 351 541

Mwy am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni. AM DDIM ond cofrestrwch eich presenoldeb drwy'r botwm archebu. 

HYSBYSIAD O'R 61ain CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL. Mae croeso i holl aelodau a chefnogwyr YNGC. Dyma eich cyfle chi i glywed am y gwaith mae eich Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn ei wneud a’n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol; ac i bleidleisio ar rai penderfyniadau ffurfiol. AM DDIM i fynychu ond archebwch i gofrestru eich presenoldeb. 

17:00    Cyrraedd (te a choffi)
17:15     Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol   
18:30    Cau

Agenda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 

1.  Ymddiheuriadau am absenoldeb 
2.  Cofnodion y 60ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2023 
3.  Adroddiad y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2024 
4.  Mabwysiadu'r Adroddiadau a'r Cyfrifon, ynghyd ag Adroddiad y Trysorydd a'r Archwilydd am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2024 
5. Ethol Aelodau'r Cyngor a Swyddogion Anrhydeddus  
6.  Ailbenodi Williams Denton o Fangor yn archwilwyr i'r Ymddiriedolaeth ac awdurdodi'r Cyngor i bennu eu tâl. 

      Howard Davies, Cadeirydd, Gorffennaf 2024 

Mae copïau o’r agenda, cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023, yr aelodau sy’n sefyll am etholiad, ac Adroddiad Blynyddol llawn 2023-2024 ar gael i’w lawrlwytho yma... 

'Cyfarfod yr Ymddiriedolaeth' 18:30 - 19:30... Ymunwch â ni am stondinau gwybodaeth bywyd gwyllt, siopa Nadolig a lluniaeth (ar gyfer bwffe, archebwch ymlaen llaw)!

Mwy am Ddarlith Lacey eleni. 19:30 - 21:00, Archebu yn hanfodol. 

'Chwilod y dom - ar genhadaeth i lanhau ein planed' 

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei ddilyn gan ein Darlith Lacey flynyddol, 19:30 - 21:00, gyda’r siaradwr gwadd Dr Claire Whittle, sy’n frwd am chwilod y dom ac yn Arweinydd Milfeddygol ar gyfer ‘Dung Beetles for Farmers’.

“O ran trychfilod, rydyn ni’n aml yn clywed am ryfeddodau pryfed genwair neu wenyn mêl yn ein tirwedd ni ond beth am yr arwres dawel sy’n brysur yn dadelfennu – y trychfil gwylaidd, chwilen y dom? Mae chwilod y dom yn beirianwyr ecosystem anhygoel ac yn rhai o'r creaduriaid mwyaf cyfareddol, gweithgar a chryfaf ar y ddaear. Ydi hi’n amser iddyn nhw ddisgleirio o dan y chwyddwydr?” 
Darganfyddwch pam mae chwilod y dom mor hanfodol, yn enwedig yn ein tirweddau ffermio ni, a sut gallant helpu ffermwyr i gadw eu hanifeiliaid a’u priddoedd yn iach am genedlaethau i ddod. Darganfyddwch beth allwn ni i gyd ei wneud i'w helpu nhw, os ydyn ni’n ffermio ai peidio!

Dung beetle

Dung beetle © Vaughn Matthews

Dr Claire Whittle

Dr Claire Whittle

Mae Claire wedi bod yn filfeddyg fferm wrth ei gwaith ers 2014. Mae hi’n gweithio’n bennaf mewn practis llaeth yn y Gogledd Orllewin ond mae ganddi hefyd ei busnes ymgynghori ei hun – The Regenerative Vet, sy’n cynnig cyngor wedi’i deilwra i fusnesau fferm unigol ledled y DU, i ddeall sut i weithio gyda byd natur i wella iechyd da byw. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp llywio’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur, yn Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Goroesiad Bridiau Prin ac mae’n Arweinydd Milfeddygol ar gyfer tîm Dung Beetles for Farmers. Angerdd arbennig Claire yw dulliau ffermio adfywiol a sut gallant fod o fudd i iechyd a lles da byw.

Darlith Lacey 

Mae Darlith Lacey yn cael ei thraddodi’n flynyddol a’i threfnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru er cof am yr Athro William Lacey: ffigwr amlwg yn Adran Fotaneg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle enillodd fri academaidd mawr a statws rhyngwladol mewn palaeobotaneg. Ochr yn ochr â grŵp bach o ffrindiau a chydweithwyr, bu’n helpu i sefydlu Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru yn 1963 i brynu Cors Goch, cors ar Ynys Môn a gafodd ei hachub rhag cael ei defnyddio fel safle tirlenwi.