Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydyn ni’n gwarchod bywyd gwyllt
Gyda’n haelodau a’n gwirfoddolwyr, rydyn ni’n gweithio i warchod bywyd gwyllt ledled gogledd Cymru, yn ein 35 o warchodfeydd natur a thrwy ein gwaith gydag eraill.
Rydyn ni’n rheoli tirweddau naturiol
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n rheoli mwy na 750 o hectarau o dir er budd bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys rhai o warchodfeydd natur gorau’r rhanbarth a thir o eiddo unigolion a sefydliadau eraill.
Rydyn ni’n addysgu pobl am natur
Rydyn ni’n addysgu pobl o bob oedran i ofalu am fywyd gwyllt drwy ein gwaith gydag ysgolion a grwpiau cymunedol, sesiynau hyfforddi a’n digwyddiadau bywyd gwyllt cyffrous.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi cysylltedd cynefinoedd naturiol, bywyd gwyllt a phobl
Drwy ein prosiectau Tirweddau Byw ein nod ni yw dangos bod adfer ar raddfa fawr ar goridorau bywyd gwyllt yn llesol i iechyd a lles pobl a’r economi leol.
Mae bywyd gwyllt y môr yn arbennig i ni
Rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o, ac yn ymgyrchu dros, warchod dyfroedd arfordirol Gogledd Cymru, sydd â byd tanddwr rhyfeddol a gwerthfawr.
Rydyn ni’n ymgyrchu dros fywyd gwyllt
Rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt.
Ein cefnogi ni
Ni fyddai posib i ni warchod a chadw bywyd gwyllt Gogledd Cymru heb eich help chi. Cefnogwch ni drwy ddod yn aelod, gwirfoddoli gyda ni neu drwy ddulliau eraill ...