Arolwg Garddio er budd Bywyd Gwyllt

Butterfly on red clover

Janet Packham

Arolwg Garddio er budd Bywyd Gwyllt

Ydi eich gardd chi’n hafan i fywyd gwyllt?

Ydi eich gardd chi’n hafan i fywyd gwyllt?

Atebwch yr arolwg dau funud i weld pa mor addas ydi eich darn chi o dir ar gyfer bywyd gwyllt!
Mae ein harolwg ar-lein cyflym a hawdd yn mesur pum nodwedd hanfodol: bwyd, lloches, dŵr, cysylltedd a'ch effaith amgylcheddol.
Hefyd fe fydd hyn yn helpu ni greu pictiwr o sut mae garddio er lles bywyd gwyllt yn rhoi cymorth i natur yng Ngogledd Cymru. Hefyd, rydym yn eich gwahodd chi i  ychwanegu eich gardd fywyd gwyllt i’n map rhyngweithiol.

Cymerwch ran yn ein harolwg a chael gwybodaeth am arddio er budd bywyd gwyllt am ddim i helpu eich darn chi o dir i fod yn rhan o rwydwaith byrlymus, llawn blodau a thyfiant ar gyfer byd natur.  Byddwch hefyd yn cael cyfle i ENNILL taleb garddio gwerth £50 yn ein raffl fawr!😀 Bydd y raffl yn cau 28 Mai 2025.  Telerau ac amodau yn berthnasol.

Dechrau’r arolwg

Gardening leaflet covers

RSWT/RHS

Ychwanegwch eich gardd at rwydwaith sy'n blodeuo, yn llawn bwrlwm ac yn tyfu er mwyn natur!

Pan fyddwch chi'n cymryd rhan yn ein harolwg, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda dolen i ychwanegu eich camau gweithredu dros natur at ein map rhyngweithiol. Mae'n ein galluogi i ddangos sut rydych chi, wrth arddio er mwyn bywyd gwyllt, yn cyfrannu tuag at rwydwaith gwych i helpu natur yng ngogledd Cymru.

Please enable javascript in your browser to see the map.

Layers

Show more layers
Show fewer layers