Beth yw Y Môr a Ni?
Y Môr a Ni yw Strategaeth Llythrennedd y Môr genedlaethol gyntaf y DU ac mae wedi cael ei lansio yma yng Nghymru!
Y diffiniad symlaf o lythrennedd y môr yw deall eich dylanwad chi ar y môr a dylanwad y môr arnoch chi. Mae’r amgylchedd morol yn cyfrif am bron i hanner arwynebedd Cymru ac mae’n adnodd hynod bwysig i ni i gyd – ar gyfer hamdden, ar gyfer gwaith ac fel ffynhonnell o ynni, bwyd a bywyd gwyllt amrywiol.
Mae pob dinesydd yng Nghymru’n gallu gwneud gwahaniaeth drwy helpu i warchod ein moroedd a’n harfordir ni yng Nghymru ac mae gennym ni i gyd, ar ryw ffurf neu’i gilydd, berthynas â’n hamgylchedd morol.
Cafodd Y Môr a Ni ei chynllunio ar y cyd gan Gynghrair Llythrennedd y Môr Cymru (WOLC), rhwydwaith o fwy nag 20 o bartneriaid o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Phrifysgol Caerdydd. Sefydlwyd WOLC gan Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru).

Fel rhan o Y Môr a Ni, bydd dau ddigwyddiad peilot Gŵyl y Môr yn cael eu lansio yn 2025: y cyntaf yn Aberdaugleddau ar 8fed a 9fed Mawrth a’r ail yn Fflint ar 22ain Mawrth.
Bydd y gwyliau’n dod â phartneriaid o bob rhan o’r sector a thu hwnt at ei gilydd, gan daflu goleuni ar yr amrywiaeth eang o fuddion y mae’r môr yn eu darparu i ni, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y môr yn parhau i gael ei reoli’n gynaliadwy yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Byddant yn cynnwys cerddoriaeth a'r celfyddydau, arddangosfeydd bwyd môr a gweithgareddau chwaraeon dŵr, ymhlith llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill.
Darllenwch Strategaeth Y Môr a Ni yma
Gwybodaeth bellach i ddod yn fuan!
“Mae pobl yn gysylltiedig â’n harfordiroedd a’n moroedd ni yng Nghymru, yn eu deall ac yn eu gwerthfawrogi, gan wneud penderfyniadau gwybodus sy’n cefnogi perthynas ddiogel a chynaliadwy rhyngddyn nhw.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd y Môr Cymru, ar reece.halstead@northwaleswildlifetrust.org.uk
Sefydliadau partner Y Môr a Ni:
