Gyda chefnogaeth ein haelodau a’n gwirfoddolwyr, a’n cyllidwyr a’n partneriaid, rydyn ni’n gweithio i adfer byd natur, i rymuso pobl i weithredu dros natur, ac i greu cymdeithas lle mae natur yn bwysig.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy reoli tirweddau naturiol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys mwy na 750 o hectarau o dir, yn ein 35 o warchodfeydd natur a thu hwnt. Rydyn ni hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a gwarchod dyfroedd arfordirol pwysig Gogledd Cymru.
Rydyn ni’n gweld gwerth yn y cysylltiad rhwng cynefinoedd naturiol, bywyd gwyllt a phobl, ac yn gweithio gyda thirddeiliaid, busnesau, sefydliadau ac unigolion i greu, gwella a chysylltu cynefinoedd yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaethau cynllunio a gwasanaethau proffesiynol eraill i awdurdodau lleol, busnesau ac unigolion.
Rydyn ni’n cefnogi pobl o bob oed i weithredu dros fyd natur, drwy weithgareddau ymarferol i helpu byd natur i ffynnu lle maen nhw’n byw a thrwy ysbrydoli pobl yn ein digwyddiadau bywyd gwyllt cyffrous niferus mewn gwarchodfeydd natur ac mewn cymunedau ar draws y rhanbarth, drwy gydol y flwyddyn!
Sefwch dros natur gyda ni! Rydyn ni’n ymgyrchu ar ran ein byd naturiol gwerthfawr a, gyda 46 o Ymddiriedolaethau Natur eraill ar draws y DU a’r ynysoedd, rydyn ni’n codi ein llais am faterion o bryder lleol, cenedlaethol a byd-eang.