Mae Enfys Ecology yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda 100% o’r elw’n dod yn ôl i helpu i greu gwell amgylchedd i bobl a bywyd gwyllt Gogledd Cymru. Mae ein mynediad unigryw at arbenigedd a gwybodaeth leol yn rhoi gwybodaeth benodol i ni am eich gofynion.
Pam ein dewis ni?
Mae Enfys Ecology yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, yn amrywio o berchnogion tŷ sydd eisiau gwneud gwaith trawsnewid neu ymestyn ac angen arolygon efallai ar rywogaethau dan warchodaeth, fel arolygon ar ystlumod, neu werthusiadau ecolegol rhagarweiniol. Hefyd, perchnogion tir sydd eisiau cyngor ar sut i reoli eu tir er lles bywyd gwyllt, neu gwmnïau mawr a datblygwyr sydd angen casgliad ehangach o wasanaethau. Mae Enfys Ecology yn cynnig llawer o wasanaethau, o arolygon ar rywogaethau dan warchodaeth i arolygon cynefin, trwyddedau lliniaru, a chlerc gwaith ecolegol, gan roi gwasanaeth dibynadwy o’r safon uchaf bob amser.
Rydyn ni’n aelodau o Gymdeithas y Cwmnïau Ymddiriedolaethau Natur Ymgynghorol (AWTC) ac yn cynnig Meincnod Bioamrywiaeth ac asesiadau BREEAM. Mae aelodau AWTC yn rhannu hyfforddiant a gwybodaeth ac yn cydweithio ar brosiectau mawr a chenedlaethol. Mae staff allweddol yn aelodau o CIEEM (Sefydliad Siartredig ar gyfer Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol) ac mae ganddynt gardiau CSCS. Hefyd mae Enfys wedi’i gymeradwyo gan Safecontractor ac wedi’i achredu o dan ISO 9001 a 14001.
Ymholiadau ac Dyfynbrisiau am waith
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ac unrhyw un o’n gwasanaethau ymwelwch â’n gwefan www.enfysecology.co.uk
Os hoffech dyfynbris ynglŷn â gwaith e-bostiwch ni ar: quotes@enfysecology.co.uk neu info@enfysecology.co.uk am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’n gwaith.
Yn anffodus ni fyddwn yn ymateb i unrhyw ymholiad cyffredinol ynghylch â bywyd gwyllt y nawn dderbyn, yn hytrach danfonwch e-bost i’r cyfeiriad info@northwaleswildlifetrust.org.uk