Corsydd Calon Môn

Scenic view of Cors Goch Nature Reserve on Anglesey, showcasing a serene landscape with misty wetlands, a reflective pond in the foreground, scattered trees, and distant mountains under a sky filled with soft clouds. The image captures the tranquility and natural beauty of the reserve

Roy & Tracy Briggs

TIRWEDDAU BYW

Corsydd Calon Môn

image/svg+xml
8,000 hecterau ()
image/svg+xml
17 rhywogaethau tegeirianau ()
image/svg+xml
2il ardal fwyaf o fen yn y DU ()
image/svg+xml
1 Maes Cadwraeth Arbennig ()

Oeddech chi'n gwybod bod Ynys Môn yn gartref i'r ail gorsdir mwyaf yn y DU? Mae’r cynefinoedd prin ac unigryw yma’n storio hyd at wyth gwaith mwy o garbon na choedwig law o'r un maint, gan chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae dyfodol y llecynnau arbennig yma a’r dreftadaeth ddiwylliannol sydd ganddynt mewn perygl.

Mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy'n ceisio diogelu dyfodol Corsydd Môn a dathlu eu hanes cyfoethog.

Beth fydd y prosiect yn ei wneud?

Gan weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, grwpiau treftadaeth, ysgolion a chymunedau lleol, bydd y prosiect yn:

• codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl ac i fyd natur.

cefnogi ffermydd lleol gydag arferion cynaliadwy sy'n meithrin gwytnwch ac yn gwarchod tir a bywoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

• archwilio a chofnodi treftadaeth y corsydd, gan ddathlu'r diwylliant a'r hanes sydd wedi'u gwreiddio yn y dirwedd.

• gwella iechyd cynefinoedd corsdir presennol a chreu cysylltiadau cryfach rhyngddynt ar gyfer ecosystemau gwytnach.

gwneud y safleoedd yn fwy hygyrch fel bod mwy o bobl yn gallu eu profi a'u mwynhau.

• darparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau, a gweithgareddau lles cymunedol.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae Corsydd Calon Môn yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Menter Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?

Mae Corsydd Calon Môn yn cael ei gyllido diolch i chwaraewyr y loteri drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gydag arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Awyrlun o Gors Goch gan Roy a Tracy Briggs.

Map o Ynys Môn yn dangos lleoliadau safleoedd corsydd allweddol, wedi'i farcio â labeli melyn ac ardaloedd coch. Mae'r safleoedd yn cynnwys Cors Erddreiniog ger Capel Coch, Cors Goch a Waun Eurad ger Traeth Coch, Cors y Farl, Gwenfro a Rhos y Gad, a Chors Bodeilio wedi'u lleoli'n ganolog ger Llangefni. Lleolir Caeau Talwrn ymhellach i'r de. Mae'r map hefyd yn cynnwys ffyrdd, megis yr A55, a map bach o Ynys Môn wedi ei mewnosod i roi cyd-destun i'r ardal a ddangosir.

Map o safleoedd allweddol corsydd Môn - Matt Canning

Logo banner displaying funders and partner organizations of the Corsydd Calon Môn project. Includes logos for: Heritage Fund, North Wales Wildlife Trust, Natural Resources Wales, NFU (National Farmers Union), Menter Môn, FUW (Farmers' Union of Wales), Dŵr Cymru Welsh Water, Betsi Cadwaladr University Health Board, Isle of Anglesey County Council, and the Esmée Fairbairn Foundation